Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd 2024 – 2028 wedi ei chyhoeddi

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi dod ynghyd i gyhoeddi strategaeth ar y cyd sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd 2024 – 2028

AGC ac AGIC yw’r arolygiaethau a’r rheoleiddwyr annibynnol ar gyfer gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Drwy ein gwaith, rydym yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn sicrhau llesiant pobl Cymru. Mae AGIC ac AGC wedi dod at ei gilydd i gyfuno ein profiad a’n gwybodaeth er mwyn gweithio ar strategaeth ar y cyd sy’n cefnogi’r ddau sefydliad. 

Gyda'n gilydd, rydym yn rhoi pobl wrth wraidd yr hyn a wnawn ac rydym yn anelu at weithredu fel llais y gellir ymddiried ynddo sy’n dylanwadu ar welliannau ac yn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru. Rydym am helpu i wella mynediad pobl at y gwasanaethau hyn ac ansawdd eu profiad ohonynt. Yn ein barn ni, bydd sicrhau ffocws cryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn.

Bydd y strategaeth ar y cyd yn ategu cynlluniau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, a bydd yn ceisio cyd-fynd â chynlluniau sydd eisoes yn bodoli a gwneud cysylltiadau rhyngddynt (megis Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliolChynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru er enghraifft).

Bydd ein strategaeth yn cynnig cyfleoedd newydd i helpu i leihau anghydraddoldebau mewn gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant ac felly, fel arolygiaethau a rheoleiddwyr, byddwn yn: 

  • Cryfhau'r ffocws ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith a lle byddwn yn dod o hyd i anghydraddoldebau byddwn yn eu herio ac yn rhoi gwybod amdanynt. Byddwn yn sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'n gwaith, er mwyn ysgogi gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant eu darparu i bobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig. 
  • Gwella ein trefniadau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau amrywiol er mwyn rhoi llais a dylanwad cryf iddynt yn ein gwaith. Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o brofiadau pobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig er mwyn llywio ein penderfyniadau. 
  • Datblygu ein sefydliadau fel eu bod yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol. Byddwn yn datblygu gweithlu mwy amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn helpu aelodau ein gweithlu i lwyddo ac i ffynnu beth bynnag fo’u cefndir, mewn gweithleoedd teg a chynhwysol. Byddwn yn buddsoddi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ein staff ac yn creu diwylliannau dysgu i’n galluogi i werthuso a herio ein dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Nod y strategaeth hon yw sbarduno gwelliannau a dangos ein hymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, er mwyn mynd i'r afael â'n cyfrifoldebau cymdeithasol fel rheoleiddwyr ac arolygiaethau i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gafael ar ofal o ansawdd da.

Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd o ran cyflawni'r amcanion a amlinellir yn y strategaeth hon drwy ein hadroddiadau blynyddol unigol.

Drwy ein camau gweithredu a amlinellir yn y strategaeth hon, bydd gennym ddealltwriaeth well o brofiadau iechyd a gofal cymdeithasol pobl o bob cefndir, ac yn gallu adlewyrchu llais y bobl yn ein gwaith yn well. Bydd y strategaeth ar y cyd hefyd yn gwella cysylltiadau a phrosesau rhannu gwybodaeth, gan gynnwys arferion da i wella ansawdd y gofal a ddarperir gan wasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant ledled Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

“Ni ddylai anghydraddoldeb chwarae unrhyw ran yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio na’u darparu. Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae ein sefydliadau yn ei chwarae o fewn y sectorau hyn a natur bellgyrhaeddol y ddau faes i gynifer o bobl ledled Cymru. Byddwn yn nodi ac yn herio anghydraddoldebau mewn gwasanaethau ble bynnag y byddwn yn dod o hyd iddynt, er mwyn sicrhau canlyniadau tecach a gwell i bobl.”

Dywedodd Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Gillian Baranski:

“Gyda'r strategaeth hon, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i herio ein hunain a’r sectorau rydym yn gweithio gyda nhw, i fod yn fwy cyfartal, yn fwy amrywiol ac yn fwy cynhwysol yn y ffordd rydym yn gweithio a’r ffordd y caiff gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant eu darparu.”

Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd 2024 – 2028