Neidio i'r prif gynnwy

Sut i canslo neu gwneud newidiadau i eich cofrestriad

Gwybodaeth ar sut y gallwch canslo neu gwneud newidiadau i eich cofrestriad

Practisau deintyddol preifat a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol

Mae angen i chi roi gwybod i ni am newidiadau i'ch gwasanaeth. Ceir canllawiau a ffurflenni y gallwch eu defnyddio ar y dudalen sut i roi gwybod i ni am newidiadau i'ch gwasanaeth ar ein gwefan.

Bydd hefyd angen i chi anfon ffurflen gais atom os hoffech ganslo eich cofrestriad, gwneud newidiadau i'ch cofrestriad neu os bydd yr Unigolyn Cyfrifol neu'r Rheolwr Cofrestredig yn newid.

Sut i ganslo eich cofrestriad â ni

Os hoffech ganslo eich cofrestriad â ni, bydd angen i chi anfon ffurflen cais i ddiddymu cofrestriad wedi'i chwblhau.

Sut i wneud newidiadau i'ch cofrestriad â ni neu ei amrywio

Os hoffech wneud newidiadau i'ch cofrestriad bydd angen i chi anfon ffurflen cais i amrywio neu dynnu amod cofrestriad presennol wedi'i chwblhau ac anfon y ffi briodol atom.

Mae ein proses ar gyfer asesu ceisiadau i amrywio neu ddileu amod cofrestriad presennol yn debyg i'r ffordd rydym yn asesu ceisiadau newydd i gofrestru â ni. Pan fydd cais yn cael ei wneud am newidiadau sylweddol, bydd angen i ni ymweld â'r gwasanaeth fel rhan o'n hasesiad.

Newidiadau i'r Unigolyn Cyfrifol

Os yw'r Unigolyn Cyfrifol ar gyfer eich gwasanaeth yn newid neu wedi newid bydd angen i chi gwblhau ffurflen newid gwybodaeth yr Unigolyn Cyfrifol.

Fel arfer gallwn brosesu'r newidiadau hyn drwy ddefnyddio'r wybodaeth ar y ffurflen gais yn unig.

Newidiadau i'r Rheolwr Cofrestredig

Os yw'r Rheolwr Cofrestredig ar gyfer eich gwasanaeth yn newid neu wedi newid bydd angen i'r rheolwr newydd gwblhau ffurflen cais i gofrestru fel rheolwr newydd mewn lleoliad sydd eisoes wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac anfon y ffi briodol atom.

Bydd ein proses ar gyfer asesu ceisiadau i gofrestru rheolwyr gwasanaethau sydd eisoes wedi cofrestru â ni yn cynnwys prosesu cais DBS (gwasanaethau gofal iechyd annibynnol) a gofyn am eirdaon. Ar gyfer rheolwyr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol, mae hefyd angen adroddiad meddygol gan feddyg teulu'r unigolyn arnom. Bydd angen i ni gyfweld â'r rheolwr newydd fel rhan o'n hasesiad hefyd.

Am fwy o wybodaeth, gweler canllawiau.

Y gyfraith

Mae Rheoliadau 9 a 12 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 a Rheoliadau 10 a 13 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 yn disgrifio pwy sy'n gallu bod yn Unigolyn Cyfrifol a gofynion y rôl.

Mae Rheoliadau 11 a 12 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017   a Rheoliadau 12 a 13 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 yn disgrifio'r gofynion ar gyfer rôl rheolwr.