Rydym yn arolygu Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal da.
Sut rydym yn arolygu
Rydym yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i gynnal arolygiadau ar y cyd o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol.
Rydym yn ystyried y ffordd y mae gwasanaethau yn:
- Cyrraedd Safonau Ansawdd 2023 ac yn bodloni Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Cydymffurfio â Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
- Cyrraedd unrhyw safonau proffesiynol perthnasol eraill a gweithredu'n unol â chanllawiau proffesiynol perthnasol eraill lle y bo'n gymwys
Rhoddir rhybudd ar gyfer arolygiadau o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol. Mae'r gwasanaeth yn cael rhybudd o hyd at 12 wythnos am yr arolygiad.
Cynhelir yr arolygiadau gan ddau arolygydd o AGIC, dau adolygydd cymheiriaid clinigol (y bydd un ohonynt wedi'i enwebu fel yr adolygydd o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl) a dau arolygydd o Arolygiaeth Gofal Cymru.
Os hoffech gopi o'n gweithlyfr arolygu, cysylltwch â agic.arolygu@llyw.cymru gan nodi pa fath o weithlyfr arolygu sydd ei angen arnoch.