Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion

Mae ein hadroddiad ar y cyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn yr 14 o argymhellion gwreiddiol a wnaed yn ein hadroddiad ar y cyd yn 2019.

Cefndir

Ym mis Tachwedd 2019, gwnaethom weithio gydag Archwilio Cymru i gwblhau adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ansawdd a rheoli risg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Gwnaed hyn yn dilyn adroddiad gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, a nododd nifer o bryderon difrifol a methiannau mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth.

Gwnaethom 14 o argymhellion ar gyfer gwella’r trefniadau rheoli risg, y broses o ddelio â digwyddiadau, honiadau a chwynion (pryderon), diogelwch cleifion a diwylliant sefydliadol. Derbyniodd y Bwrdd Iechyd y canfyddiadau yn llawn, a dechreuodd ymateb i argymhellion yr adroddiad.

Y sefyllfa sydd ohoni

Mae ein hadroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn yr 14 o argymhellion gwreiddiol a wnaed yn ein hadroddiad.

Gwelsom fod y Bwrdd Iechyd yn gwneud cynnydd da i fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed yn 2019, yn arbennig o ystyried yr heriau a wynebwyd wrth ymateb i’r pandemig.

Gwelsom gryn ymrwymiad, ysgogiad a brwdfrydedd gan y Bwrdd, ac awydd clir i wneud pethau'n iawn.

Er gwaethaf y cynnydd da rydym wedi ei gydnabod drwy ein hadroddiad dilynol, mae gwaith i'w wneud o hyd ym mhob un o'r meysydd lle nodwyd argymhellion yn 2019. Felly, mae pob un o'r argymhellion yn parhau ar agor.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn isod. Mae hefyd ar gael ar wefan Archwilio Cymru.