Ymestyn ein Strategaeth: Blwyddyn ar gyfer Cynnydd a Gwelliant Parhaus
Fel sefydliad sy'n gwirio ansawdd gofal iechyd yng Nghymru, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl a chymunedau yn cael gofal diogel, effeithiol, ac o ansawdd uchel sy'n diwallu eu hanghenion.

Ar ôl ystyried yn ofalus, rydym wedi penderfynu ymestyn ein strategaeth bresennol am flwyddyn arall, o 2022-2025 i 2022-2026. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau â'n gwaith, gan sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn diwallu anghenion pob cymuned, yn enwedig y rhai sy'n wynebu anghydraddoldebau a rhwystrau i fynediad.
Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella ansawdd gofal iechyd, sicrhau diogelwch cleifion, a mynd i'r afael â heriau o ran perfformiad ar draws gwasanaethau. Bydd ymestyn y strategaeth yn ein galluogi i ehangu ein hymrwymiad i sicrhau gwelliannau effeithiol a diwallu anghenion pobl ledled Cymru.
Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn ddiogel, yn effeithiol, ac yn diwallu anghenion pob cymuned.
Dros y cyfnod estynedig o 2022 i 2026, ein nod yw:
- Gwella Ansawdd Gofal Iechyd: Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal iechyd a ddarperir i bobl a chymunedau wrth iddynt gyrchu a defnyddio gwasanaethau a symud rhyngddynt.
- Ymateb i Risgiau sy'n Dod i'r Amlwg: Byddwn yn addasu ein dull gweithredu i sicrhau ein bod yn ymatebol i risgiau i ddiogelwch cleifion sy’n dod i’r amlwg.
- Ysgogi Gwelliannau i Wasanaethau: Byddwn yn cydweithio er mwyn ysgogi’r gwaith o wella systemau a gwasanaethau ym maes gofal iechyd.
- Cefnogi Ein Gweithlu: Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu ein gweithlu i’w galluogi, a’r sefydliad, i gyflawni ein blaenoriaethau.
Drwy gyflawni'r strategaeth hon, ein nod yw dylanwadu ar welliannau gofal iechyd, cefnogi cydraddoldeb, a sicrhau safonau uchel ym maes gofal iechyd ledled Cymru.
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Alun Jones:
Rydym wedi penderfynu ymestyn ein strategaeth bresennol am flwyddyn arall, o 2022 i 2026, er mwyn sicrhau y gallwn barhau i addasu i'r dirwedd gofal iechyd sy'n newid.Bydd hyn yn ein galluogi i ehangu ein hymrwymiad i wella ansawdd, diogelwch, a hygyrchedd gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru, yn ogystal â mynd i'r afael â heriau a blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg. Ein nod o hyd yw ysgogi gwelliannau ystyrlon i ofal cleifion a sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn diwallu anghenion amrywiol y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.