Pan na fydd darparwr annibynnol yn cydymffurfio â gofynion ac amodau rheoleiddiol ei gofrestriad byddwn yn gweithredu.
Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod darparwyr gofal iechyd annibynnol yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Neddf Safonau Gofal 2000 (Y Ddeddf) a'r rheoliadau a'r safonau sy'n ymwneud â'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Rydym yn gwneud hyn drwy arolygu gwasanaethau, darparu adborth ar unwaith ar ôl yr arolygiad a chyhoeddi adroddiad ar ein canfyddiadau.
Os, yn dilyn arolygiad, y byddwn yn gweld bod darparwr gwasanaeth yn peryglu diogelwch cleifion ac yn methu â chydymffurfio â thelerau ei ofynion rheoliadol a'i gofrestriad, byddwn yn cymryd camau ar unwaith drwy gyflwyno hysbysiad diffyg cydymffurfio.
Yr hyn a wnawn pan nad yw gwasanaeth yn bodloni ei ofynion a'i amodau rheoliadol
- Os bydd Arolygydd yn nodi meysydd y mae angen gweithredu arnynt ar unwaith, rhoddir gwybod i'r darparwr gwasanaeth ar ddiwedd yr arolygiad.
- Caiff hysbysiad diffyg cydymffurfio ei gyflwyno ar unwaith ar ôl yr arolygiad yn cadarnhau'r meysydd a nodwyd lle nad yw gwasanaeth yn bodloni ei ofynion cyfreithiol. Gall panel Gwasanaeth sy'n Peri Pryder gael ei gynnull i asesu'r ymatebion.
- Gall arolygiad dilynol gael ei gynnal i sicrhau yr ymdriniwyd â'r meysydd lle nad yw gwasanaeth yn cydymffurfio.
- Os bydd gwasanaeth yn parhau i fethu â chydymffurfio, caiff cyfarfod Gwasanaeth sy'n Peri Pryder ei gynnal, a chaiff penderfyniad ei wneud ynghylch dynodi'r gwasanaeth yn wasanaeth sy'n peri pryder. Gall AGIC gynnal cyfarfod Darparwr i drafod meysydd sy'n peri pryder. Caiff unrhyw Wasanaethau sy'n Peri Pryder eu hadolygu'n gyson gan AGIC.
- Pan fydd darparwr gwasanaeth wedi cael ei ddynodi yn Wasanaeth sy'n Peri Pryder ac nid yw'n cyflawni'r gwelliannau gofynnol, byddwn yn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i ychwanegu amodau at y cofrestriad, atal y cofrestriad neu ganslo'r cofrestriad.