Ysbyty Hillview yn parhau'n Wasanaeth sy'n Peri Pryder yn dilyn arolygiad
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (12 Ionawr 2023) mewn perthynas â'i harolygiad o Ysbyty Hillview yng Nglynebwy, sy'n arbenigo mewn gofal iechyd meddwl i bobl ifanc.
Mae hyn yn dilyn arolygiad blaenorol ym mis Tachwedd 2021 lle cafodd Ysbyty Hillview ei ddynodi'n Wasanaeth sy'n Peri Pryder oherwydd nifer y materion a nodwyd a'u difrifoldeb. Er ein bod wedi gweld gwelliannau yn ystod yr arolygiad diweddaraf hwn, nodwyd gennym na wnaed digon o gynnydd i wella'r systemau ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau a'r trefniadau ar gyfer rheoli prosesau atal yn gorfforol. O ganlyniad, mae Ysbyty Hillview yn parhau wedi'i ddynodi'n Wasanaeth sy'n Peri Pryder, a byddwn yn parhau i fonitro'r gwasanaeth er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â'r holl welliannau gofynnol.
Cwblhaodd AGIC arolygiad annibynnol dirybudd o'r ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Awst y llynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, arolygwyd nifer o ardaloedd asesu ar ward Tŷ Seren a ward Ebbw. Mae 21 o welyau yn yr ysbyty ac mae'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed i ferched rhwng 13 a 18 oed sydd wedi cael diagnosis o anhwylder meddyliol, ac sy'n cael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Ar adeg yr arolygiad, roedd yr ysbyty yn cael ei reoli gan Regis Healthcare, sydd wedi cael ei gaffael ers hynny gan Elysium Healthcare.
Yn ystod yr arolygiad ar y safle, gwelodd arolygwyr AGIC fod gwelliannau wedi cael eu gwneud mewn sawl maes ers ein harolygiad blaenorol. Er enghraifft, roedd ansawdd y cynlluniau gofal a thriniaeth bellach yn cydymffurfio â'r canllawiau arferion gorau. Roedd deietegydd ar gael yn yr ysbyty a oedd yn gyfrifol am sicrhau bod anghenion maeth a hydradu'r bobl ifanc yn cael eu diwallu. Roedd gan bob person ifanc gynllun gofal a oedd yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Yn ogystal, roedd eiriolwr iechyd meddwl ar gael i'r bobl ifanc er mwyn rhoi cymorth a gwybodaeth bellach iddynt.
Nododd ein harolygiad blaenorol faterion mewn perthynas â gweithdrefnau gwael ar gyfer rheoli meddyginiaethau, ac o ran cynnal a chadw'r amgylcheddau clinigol. Gwelsom welliant amlwg mewn perthynas â'r materion hyn, ac roedd gweithdrefnau diwygiedig ar waith ar gyfer rheoli meddyginiaethau yn ddiogel. Gwelsom hefyd fod gwaith wedi cael ei gwblhau mewn perthynas ag amgylchedd yr ysbyty a bod y wardiau yn edrych yn fwy apelgar a dymunol.
Gwahoddwyd aelodau o deuluoedd a gofalwyr y bobl ifanc yn yr ysbyty i gwblhau holiaduron er mwyn cael gwybod eu barn am y gwasanaeth a ddarperir. Roedd y canlyniadau yn dangos gwahaniaeth barn, gyda bron i hanner yr ymatebwyr o'r farn bod y lleoliad naill ai'n dda neu'n dda iawn a thros eu hanner o'r farn bod y lleoliad naill ai'n wael neu'n wael iawn. Yn ôl ein harsylwadau ni, roedd y rhyngweithio rhwng y staff a'r bobl ifanc yn gyfeillgar ac yn llawn parch. Roedd y bobl ifanc y gwnaethom siarad â nhw yn ystod yr arolygiad hefyd yn gadarnhaol am y gofal roeddent yn ei gael ac am y rhyngweithio rhyngddynt â'r staff. Dywedodd tua hanner yr ymatebwyr i'r holiaduron i aelodau o'r teuluoedd a gofalwyr fod y staff yn gwrtais, yn garedig neu'n sensitif i'r bobl ifanc wrth ddarparu gofal a thriniaeth. Mae'r canfyddiad hwn yn ganfyddiad o bwys, a bydd angen i'r tîm rheoli ei ystyried a dangos tystiolaeth o welliannau.
Gwnaethom edrych ar sampl o gofnodion yn ystod yr arolygiad a gwelsom dystiolaeth bod anghenion iechyd corfforol y bobl ifanc wedi cael eu hystyried yn ogystal â'u gofal iechyd meddwl. Fodd bynnag, nodwyd gennym fod yr asesiadau corfforol yn ymddangos yn gyffredinol ac nad oeddent wedi'u teilwra at yr unigolyn. Er enghraifft, roedd yn ymddangos fel petai rhai adrannau wedi cael eu copïo a'u gludo o un set o gofnodion i set arall.
Nododd ein hymweliad blaenorol faterion mewn perthynas â'r gweithdrefnau ar gyfer atal a rheoli heintiau. Yn anffodus, roedd y materion hyn i'w gweld o hyd, ac mae angen gwella'r gweithdrefnau er mwyn sicrhau y caiff ardaloedd i'r cleifion ac ymwelwyr eu cadw'n lân ac yn daclus. Nid oedd y gweithdrefnau ar gyfer atal a rheoli heintiau yn ddigonol ac felly bu'n rhaid i'r arolygwyr ofyn i ardaloedd gael eu glanhau yn dilyn digwyddiadau.
Daethom i'r casgliad fod materion difrifol o hyd mewn perthynas ag ansawdd y broses o roi gwybod am ddigwyddiadau. Gwnaethom edrych ar sampl o adroddiadau er mwyn deall a ellid cyfiawnhau'r defnydd o ddulliau atal yn gorfforol yn ystod digwyddiadau. Nodwyd gennym nad oedd yr adroddiadau yn cynnwys digon o fanylion priodol i roi sicrwydd o'r fath. Nodwyd y mater hwn yn flaenorol, ac nid oedd arolygwyr AGIC o'r farn bod cynnydd digonol wedi'i wneud i ddatrys y maes pryder hwn ac i ymdrin ag ef.
Mae'r lleoliad wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi camau gwella. Bydd AGIC yn parhau i fonitro cynnydd yn erbyn y cynllun hwn yn ofalus.
Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:
Er bod y gwasanaeth wedi gwneud gwelliannau ers i ein harolygiad diwethaf, mae'n destun pryder na fu digon o gynnydd mewn perthynas â sawl maes allweddol. Mae angen rhoi sylw dybryd i'r meysydd hyn gan fod diogelwch y bobl ifanc sy'n cael eu trin yn yr ysbyty hwn yn holl bwysig.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gwasanaeth er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.
Awst 2022 – Adroddiad Arolygu Gwasanaeth Iechyd Meddwl Annibynnol – Ysbyty Hillview
Awst 2022 – Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad – Ysbyty Hillview