Cyflwyniad
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn gwneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn derbyn gofal iechyd o ansawdd da.
Mae AGIC yn ymrwymedig i gefnogi iaith Gymraeg sy'n ffynnu.
Cyd-destun Polisi
Mae'r datganiad hwn yn cyd-fynd â'r fframwaith polisi canlynol:
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Rhoddodd y Mesur hwn statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru, sy'n golygu na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Gwnaeth y mesur hefyd sefydlu rôl Comisiynydd y Gymraeg a chreu gweithdrefn ar gyfer cyflwyno Safonau'r Gymraeg.
Fel rhan o Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i AGIC gydymffurfio â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015.
Cymraeg 2050
Mae Strategaeth Cymraeg 2050 yn amlinellu dull hirdymor Llywodraeth Cymru o gyrraedd y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod angen i ni yng Nghymru gyrraedd sefyllfa lle mae'r Gymraeg yn elfen hollol naturiol o bob agwedd ar fywyd bob dydd.
Mae AGIC yn rhan o Lywodraeth Cymru ac yn ymrwymedig i weithio tuag at gyrraedd y targed hwn.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Nod y Ddeddf hon yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn meddwl mwy am yr hirdymor, yn gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a'i gilydd, yn ceisio atal problemau ac yn mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig. Un o'r saith nod llesiant a restrir yn y Ddeddf yw "Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu".
Fel corff cyhoeddus, mae AGIC yn ymrwymedig i'r Nodau Llesiant
Ffyniant i bawb
'Ffyniant i bawb' yw strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru sy'n ceisio datblygu'r ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu 'Symud Cymru Ymlaen'. Un o amcanion y strategaeth genedlaethol yw 'datblygu cymunedau, diwylliant ac iaith sy'n gydnerth'. Er mwyn cyflawni'r amcan hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau ledled Cymru er mwyn hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg mewn modd cadarnhaol a chynhwysol.
Fel rhan o Lywodraeth Cymru, mae AGIC yn ymrwymedig i gyflawni amcanion Ffyniant i Bawb.
Fframwaith Mwy na geiriau
Nod y fframwaith 'Mwy na geiriau' yw cryfhau gwasanaethau Cymraeg ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Un o egwyddorion allweddol y fframwaith yw'r 'Cynnig Rhagweithiol'. Mae 'Cynnig Rhagweithiol' yn golygu darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i neb orfod gofyn amdano.
Mae AGIC yn edrych i weld a gaiff gwasanaethau Cymraeg eu darparu gan wasanaethau gofal iechyd fel rhan o'n rhaglen arolygu bresennol. Fel rhan o'r fframwaith, mae AGIC yn arolygu ac yn rhoi gwybod a all siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan naturiol o'u gofal, ac a all siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r Gymraeg i fynegi eu hunain wrth gael gofal yn unol â'r Safonau Iechyd a Gofal. Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG a gwasanaethau annibynnol ar ein gwefan.
Ers mis Mehefin 2019, mae dyletswyddau newydd ar fyrddau iechyd yng Nghymru i gynnig gwasanaethau Cymraeg i gleifion. Y dyletswyddau newydd hyn yw Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn rheoleiddio cydymffurfiaeth byrddau iechyd â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018.
Strategaeth AGIC
Mae ein strategaeth yn ein galluogi i chwarae rhan lawn wrth helpu i gyflawni amcanion Ffyniant i Bawb a Cymraeg 2050.
Mae ein Cynllun Strategol yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf: ein blaenoriaethau strategol a'r hyn y byddwn yn ei wneud er mwyn cyflawni ein huchelgais.
Un o'n pedair blaenoriaeth strategol yw 'bod yn fwy amlwg'. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein gwaith yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl ac ein bod yn ystyried pob angen, gan gynnwys y Gymraeg.
Blaenoriaeth strategol arall AGIC yw 'datblygu ein pobl a'n sefydliad i wneud y gwaith gorau posibl’. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod hyfforddiant ac adnoddau Cymraeg ar gael i'n staff.
Ein hymrwymiad i'r Gymraeg
Fel sefydliad dwyieithog, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod y cyhoedd, ein rhanddeiliaid a'n gwasanaethau cofrestredig yn gallu manteisio ar ein gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn golygu ein bod yn ymrwymedig i barhau i ddatblygu ein darpariaeth ddwyieithog
Ar gyfer y cyhoedd a'n rhanddeiliaid
- Pan fydd aelod o'r cyhoedd yn cysylltu â ni, rydym yn sicrhau y caiff gynnig cyfathrebu yn Gymraeg os yw'n dymuno gwneud hynny. Rydym yn sicrhau bod siaradwr Cymraeg wrth law bob amser i ateb galwadau ffôn yn Gymraeg
- Rydym yn hysbysu'r cyhoedd ein bod yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwn yn ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi
- Anfonir gwahoddiadau i gyfarfodydd yn ddwyieithog, ac rydym yn sicrhau ein bod yn ystyried gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus, a bod y rhai sy'n trefnu cyfarfodydd cyhoeddus yn atgoffa'r bobl ar ddechrau cyfarfodydd eu bod yn gallu cyfrannu yn Gymraeg
- Caiff pob dogfen a gynhyrchir ar gyfer y cyhoedd ei chynhyrchu yn Gymraeg a'i chyhoeddi ar ein gwefan ddwyieithog
- Mae ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol corfforaethol yn ddwyieithog
- Caiff hysbysiadau cyhoeddus a hysbysebion eu cynhyrchu’n ddwyieithog
Ar gyfer ein staff
- Rydym yn gwerthfawrogi ein staff Cymraeg ac yn hyrwyddo amgylchedd gwaith sy'n annog y defnydd o'r Gymraeg
- Rydym yn annog aelodau o'r staff sydd am ddysgu Cymraeg i fynd ar gyrsiau Cymraeg ac yn sicrhau eu bod yn cael digon o amser ac adnoddau i ymrwymo i ddysgu Cymraeg.
Sut rydym yn monitro ein cydymffurfiaeth a'n hymrwymiad i'r Gymraeg
- Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â thîm Safonau'r Gymraeg Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r safonau
- Rydym yn adrodd i Lywodraeth Cymru a chaiff ein gweithgarwch o ran y Gymraeg ei gofnodi yn ei hadroddiad blynyddol ar gydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg
- Rydym yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â pholisïau iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru
- Rydym yn adrodd ar ganfyddiadau ein harolygiadau mewn perthynas â darpariaeth Gymraeg a byddwn yn dadansoddi themâu a thueddiadau ar gyfer ein Hadroddiad Blynyddol.