Rydym yn arolygu gwasanaethau iechyd ledled Cymru i wneud yn siwr bod afonau'n cael eu bodloni. Mae ein harolygiadau yn digwydd yn rheolaidd a lle bo'n bosibl, maent yn ddirybudd.
Sut rydym yn arolygu
Am ragor o wybodaeth am:
- Sut rydym yn arolygu’r GIG
- Sur rydym yn arolygu gwasanaethau gofal iechyd annibynnol
- Sut rydym yn gweithredu
Gall ein harolygiadau o wasanaethau gofal iechyd fod â rhybudd neu gallant fod yn ddirybudd.
Rydym yn edrych ar sut mae gwasanaethau yn:
- Cydymffurfio â rheoliadau
- Diwallu safonau gofal iechyd
- Diwallu deddfwriaeth, safonau proffesiynol a chanllawiau eraill lle bo'n berthnasol
Rydym yn defnyddio'r rheoliadau a'r safonau i wneud penderfyniadau am ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd gwasanaethau gofal iechyd.
Beth sy'n digwydd ar ôl ein harolygiadau?
Ar ôl ein harolygiadau, byddwn yn:
- Ysgrifennu adroddiad arolygu a’i gyhoeddi ar ein gwefan
- Mynnu bod gwasanaethau yn gwneud gwelliannau lle bo angen
- Penderfynu a fydd angen i ni gymryd camau dilynol pellach ar faterion a nodwyd yn ystod arolygiad
- Parhau i fonitro'r holl wybodaeth sydd gennym am wasanaeth, o'n harolygiadau, y cyhoedd, staff gofal iechyd, gwasanaethau gofal iechyd a sefydliadau eraill, a phenderfynu pa gamau gweithredu mae angen i ni eu cymryd
Sut rydym yn adrodd
Rydym yn adrodd ac yn cyhoeddi canfyddiadau ein harolygiadau o dan dair thema:
- Ansawdd profiad y claf: Rydym yn siarad â phobl am eu profiadau o ofal
- Cyflenwi gofal diogel ac effeithiol: Rydym yn ystyried i ba raddau y mae gwasanaethau’n darparu gofal o ansawdd uchel, gofal diogel a gofal dibynadwy sy’n canolbwyntio ar gleifion unigol
- Ansawdd rheolaeth ac arweinyddiaeth: Rydym yn edrych ar sut y mae gwasanaethau’n cael eu rheoli a'u harwain a sut maent yn gwirio eu perfformiad eu hunain yn erbyn rheoliadau, safonau a chanllawiau perthnasol
Os hoffech arddangos ein manylion cyswllt yn eich lleoliad gofal iechyd, defnyddiwch y poster isod.
Dogfennau
- Cyhoeddedig279 KB- pdf
- Cyhoeddedig67 KB- pdf