Y ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau ac yn dewis ble i bwysleisio ein gwaith
Mae'n rhaid i AGIC ddefnyddio gwybodaeth mewn modd effeithiol i sicrhau bod ein rhaglen o weithgareddau yn canolbwyntio ar leoliadau lle mae cleifion yn fwyaf tebygol o fod mewn perygl o beidio â derbyn gofal da.
Ein her ni yw defnyddio a dadansoddi amrediad eang o wybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol a phriodol ynghylch sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau.
Er mwyn bodloni hyn, mae gennym systemau a phrosesau ar waith i sicrhau bod ein penderfyniadau yn gyson ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae ein strategaeth risg a'n Pwyllgor Risg ac Uwchgyfeirio yn hanfodol i'r broses hon; ceir manylion pellach ynglŷn â'r rhain yn y dogfennau isod.
Mae'r ddogfen olaf yn amlinellu chwe cham gweithredu y byddwn yn eu rhoi ar waith yn fewnol o fewn AGIC yn ystod y ddwy flynedd nesaf er mwyn ehangu ymhellach ar y ffordd rydym yn defnyddio gwybodaeth.