Croeso i rifyn diweddaraf y diweddariad chwarterol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).
Mae Bwletin Cipolwg Chwarterol AGIC yn rhannu ein newyddion diweddaraf, yn crynhoi themâu allweddol rydym wedi’u darganfod, ac yn amlinellu diweddariadau arwyddocaol, felly gyda’n gilydd gallwn gyflawni ein nod o wella gofal iechyd ledled Cymru.
Mae'r bwletin hwn yn rhan o'n hymrwymiad i ddeall disgwyliadau ein rhanddeiliaid yn well, ymgysylltu'n rhagweithiol, a gwneud hynny'n rheolaidd, rhannu ein canfyddiadau ac adrodd ar ein gweithgareddau.
Os ydych yn gweithio mewn gwasanaeth neu'n ymwneud â'r gwaith o redeg gwasanaeth, rydym wedi cyflwyno ein hadran newydd ‘Dysgu a Dealltwriaeth’ i'r bwletin hwn, i rannu'r gwersi a ddysgwyd ac ysgogi gwelliant parhaus. Yn y rhifyn hwn, rydym yn pwysleisio themâu sy’n peri pryder yr ydym wedi’u canfod yn ein gwaith o fewn practisau deintyddol ledled Cymru. Gofynnwn i chi … beth allwch chi ei ddysgu o hyn i fynd yn ôl i'ch maes gwaith?
Gwyliwch yr animeiddiad byr hwn isod sy'n amlinellu'r rôl allweddol y mae AGIC yn ei chwarae wrth sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal iechyd diogel ac effeithiol o ansawdd da.
Diweddariad Busnes
Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf
Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf ar gyfer 2021 – 2022 sy'n crynhoi ein gweithgareddau, gan gynnwys arolygu gwasanaethau gofal iechyd y GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol. Mae’r adroddiad yn nodi pwysau parhaus ar ofal brys yn dilyn pandemig COVID-19, pryderon staffio, risgiau ynghylch rheoli diogelwch cleifion, a hygyrchedd apwyntiadau wyneb yn wyneb.
Mae’r adroddiad yn amlygu sut mae AGIC wedi parhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch cleifion drwy herio gwasanaethau gofal iechyd i chwilio am wahanol ffyrdd o weithio i wella canlyniadau i gleifion. Dros y cyfnod o 12 mis, parhaodd AGIC ag ystod lawn o weithgareddau sicrwydd ac arolygu, gan adeiladu ar ffyrdd gwell o weithio a chymryd camau lle na chyrhaeddwyd safonau.
Yn ystod y flwyddyn, ymgymerodd AGIC â bron i 200 o ddarnau o waith arolygu a sicrwydd ac ymdriniodd â dros 500 o bryderon gan y cyhoedd a staff gofal iechyd.
Gellir darllen yr adroddiad llawn ar ein gwefan.
Croeso i'n Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu newydd – Abubakar Askira
Ymunodd Abubakar ag AGIC o Ofal Cymdeithasol Cymru ym mis Mai 2022. Ffocws allweddol rôl Abubakar yn AGIC yw gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer y sefydliad, adeiladu enw da, a sicrhau bod gwaith AGIC yn amlwg iawn, er mwyn cefnogi gwelliant ym maes gofal iechyd. Mae hefyd yn rhoi arweiniad ar y swyddogaethau canlynol – partneriaethau, deallusrwydd, methodoleg a chyfathrebu.
Mae gan Abubakar dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes datblygu a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol. Roedd ei rôl flaenorol, fel Rheolwr Ymgysylltu a Datblygu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cynnwys goruchwylio’r holl weithgareddau ymgysylltu a goruchwylio sefydlu systemau busnes, a wnaeth ganiatáu i wybodaeth a gasglwyd drwy waith ymgysylltu gael ei ddefnyddio mewn modd effeithiol. Yn ystod pandemig COVID-19, arweiniodd Abubakar raglen waith gyda’r nod o gefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol.
Mae cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i rôl Abubakar, a thros yr ychydig fisoedd nesaf, mae'n awyddus i gwrdd â phartneriaid, a meithrin cydberthynas cydweithio agos â nhw, i sicrhau bod AGIC yn darparu rhaglen sicrwydd sy'n parhau i fod yn gyfredol ac sy'n helpu i ysgogi gwelliant.
Ymunwch â Ni
Mae AGIC yn sefydliad prysur a chyflym gyda phobl wrth ei graidd. Mae ein sefydliad wedi'i rannu'n sawl tîm, ac o fewn pob tîm, mae staff â rolau unigryw sy'n gweithio gyda'i gilydd i wirio bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu mewn ffordd sy'n mwyafu iechyd a llesiant pobl.
Cymerwch olwg ar ein swyddi gwag diweddaraf...
Arolygwyr - Amrywiol
Mae gennym nifer o rolau ar gael yn ein tîm Arolygu, ac rydym yn ceisio recriwtio unigolion sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth. Mae’r rôl yn sicrhau bod rhaglen o weithgarwch arolygu, adolygu a/neu reoleiddio yn cael ei chynllunio, ei rheoli a’i hadrodd mewn modd amserol ac i safon broffesiynol. Bydd y swyddi hyn yn cael eu hysbysebu'n fuan. Cadwch olwg ar ein gwefan.
Rheolwr Gwybodaeth
Rydym yn recriwtio Rheolwr Gwybodaeth. Bydd y rôl yn cyflawni tasgau hollbwysig, megis casglu a defnyddio gwybodaeth, er mwyn helpu i sicrhau bod gweithgareddau AGIC yn canolbwyntio ar ddiogelwch cleifion ac ansawdd ac yn ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gwneud y defnydd gorau o ddata er mwyn helpu i gefnogi’r dull o gynllunio arolygiadau sy'n seiliedig ar risg ac i ddarparu gwybodaeth gadarn i lywio ein gwaith.
Y dyddiad cau yw 24/10/2022 am 4pm. Gwnewch gais drwy ein gwefan.
Adolygwyr Cymheiriaid
Mae Adolygwyr Cymheiriaid yn weithwyr iechyd proffesiynol o ystod o arbenigeddau o bob rhan o Gymru. Maent fel arfer yn ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Mae hyn yn ein helpu i bwysleisio arferion da ac atgyfnerthu a rhannu safonau gofal iechyd o fewn y GIG a'r sector gofal iechyd annibynnol er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd a gwasanaeth gwell i’r cleifion. Yn arbennig, rydym yn croesawu ceisiadau gan weithwyr proffesiynol sydd yn gweithio ym maes ymarfer clinigol ar hyn o bryd.
Er mwyn gwneud cais am y rolau hyn ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen swyddi gwag diweddaraf ar ein gwefan.
Mae AGIC yn credu yng ngwerth gweithlu amrywiol a chyfartal. Rydym yn annog ymgeiswyr o bob cefndir yn rhagweithiol, er mwyn ein bod yn cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Fframwaith y Gymraeg wedi'i ddiweddaru ar gyfer maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
'Mwy Na Geiriau' yw fframwaith strategol Llywodraeth Cymru i gryfhau darpariaeth y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Cyhoeddwyd cynllun gweithredu Mwy Na Geiriau 2022-27 newydd ar 2 Awst 2022. Ei nod yw cefnogi siaradwyr Cymraeg i dderbyn gofal yn eu hiaith gyntaf. Dylai gwasanaethau gofal iechyd sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'u rôl a'u cyfrifoldebau mewn perthynas â’r cynllun hwn.
Mae gan AGIC ran allweddol i'w chwarae o dan y thema 'Rhannu arferion gorau a dull galluogi' ac rydym am i'n gwaith arwain at brofiad gwell i gleifion a chanlyniadau gwell ledled Cymru.
Ein rôl yw arolygu a llywio gwelliannau ansawdd, ac fel rhan o hyn, byddwn yn ystyried i ba raddau y mae gwasanaethau yn cyflawni eu cyfrifoldebau o ran cefnogi siaradwyr Cymraeg sy'n derbyn gofal iechyd.
Diweddariad ar Weithgarwch
Gwaith Uwchgyfeirio a Gorfodi
Adroddiad yn nodi ‘pryderon sylweddol’ yn Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd.
Nododd arolygiad AGIC nad oedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drefniadau digonol ar waith yn yr adran i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal iechyd diogel.
Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o'r adran achosion brys ym mis Mai eleni. Cynhaliwyd yr arolygiad hwn i fynd ar drywydd y pryderon sylweddol a nodwyd gan AGIC yn ystod gwiriad ansawdd blaenorol a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2022.
Daeth ein harolygwyr i’r casgliad bod diffyg gwelliant i safon dderbyniol mewn perthynas â’r pryderon a nodwyd ym mis Mawrth 2022. O ganlyniad, dynododd AGIC yr adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd fel Gwasanaeth sydd Angen Gwelliant Sylweddol ar 9 Mai 2022. At hynny, nododd arolygiad mis Mai sawl maes ychwanegol o bryder yn ymwneud â diogelwch cleifion.
mlygodd yr archwiliad ar y safle ym mis Mai fod yr adran achosion brys yn profi cyfnod o alw di-ildio ar ei gwasanaethau. Nododd AGIC yr amgylchedd â phwysau mawr ar gyfer staff, a oedd yn gweithio y tu hwnt i'r disgwyl mewn amodau heriol. Fodd bynnag, gwnaeth AGIC ganfod nad oedd y bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llwyr â nifer o'r Safonau Iechyd a Gofal a gwnaeth bwysleisio meysydd o bryder sylweddol a allai gyflwyno risg uniongyrchol i ddiogelwch cleifion.
oedd y pryderon hyn yn ymwneud ag effeithiolrwydd trefniadau ar gyfer asesu, monitro, arsylwi ac uwchgyfeirio cleifion sâl neu gleifion sy'n gwaethygu. Nododd AGIC hefyd fod ansawdd y dogfennau nyrsio yn llawer is na'r safon ofynnol a gwnaeth ganfod tystiolaeth o reolaeth wael o risgiau iechyd a diogelwch, megis system anniogel ar gyfer mynd i mewn ac allan o’r ardal bediatrig. Roedd gweithdrefnau atal a rheoli heintiau hefyd yn annigonol.
O ganlyniad, ni chafodd AGIC sicrwydd bod yr holl brosesau a systemau ar waith yn ddigonol i sicrhau bod y cleifion yn derbyn safon dderbyniol o ofal amserol, diogel ac effeithiol yn gyson.
Amlygodd AGIC feysydd lle roedd angen gweithredu ar unwaith er mwyn cadw cleifion yn ddiogel. Mae AGIC wedi annog y bwrdd iechyd i ystyried holl ganfyddiadau'r adolygiad hwn yn ofalus a chymryd camau i leihau'r posibilrwydd o niwed sylweddol i gleifion ac i ymgorffori pob gwelliant mewn arferion.
Mae dynodiad Gwasanaeth sydd Angen Gwelliant Sylweddol yr adran achosion brys sy’n gymwys ar hyn o bryd yn ein galluogi i gynllunio a chyflawni gweithgareddau angenrheidiol yn y dyfodol i gael sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch gofal yn y gwasanaeth hwnnw.
Adolygiadau Parhaus
Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion (Llwybr Strôc)
Gall llif cleifion aneffeithiol ac aneffeithlon gael effaith sylweddol ar ansawdd a diogelwch gofal cleifion. O ganlyniad, mae AGIC yn cynnal adolygiad cenedlaethol o lif cleifion.
Er mwyn asesu effaith heriau’r llif cleifion ar ansawdd a diogelwch cleifion sy'n aros am asesiad a thriniaeth, byddwn yn canolbwyntio ein hadolygiad ar y llwybr strôc. Rydym am ddeall yr hyn sy'n cael ei wneud i liniaru unrhyw niwed i'r rheiny sy'n aros am ofal, yn ogystal â deall sut mae ansawdd a diogelwch gofal yn cael eu cynnal.
Dechreuodd y gwaith o gynllunio’r adolygiad yn ystod hydref 2021, a dechreuodd y gwaith maes ym mis Mawrth eleni. Drwy gydol ein hadolygiad byddwn yn ystyried sut mae'r GIG yng Nghymru yn mynd i'r afael â mynediad pobl at ofal acíwt ar yr adeg gywir a ph’un a yw gofal yn cael ei dderbyn yn y lle iawn, ac yn cael ei roi gan bobl â'r sgiliau cywir, hyd at ryddhau cleifion yn amserol. Ein nod yw cyhoeddi adroddiad yr adolygiad ar ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Adolygiad Lleol o Drefniadau Rhyddhau Cleifion sy'n Oedolion o Wasanaethau Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Yn dilyn asesiad o wybodaeth o ystod o ffynonellau a oedd yn nodi pryderon sylweddol ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gwnaethom y penderfyniad i gynnal yr adolygiad hwn. Y ffocws yw archwilio ansawdd a diogelwch trefniadau rhyddhau cleifion, sy'n oedolion o unedau iechyd meddwl cleifion mewnol, yn ôl i'r gymuned.
Dechreuodd yr adolygiad ym mis Ionawr 2022 a bydd yn parhau tan ddiwedd yr haf, a bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Adolygiad Lleol o'r Gwasanaeth Fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Yn unol â'n proses ar gyfer gwasanaeth GIG sy’n peri pryder, cafodd gwasanaethau fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu dynodi gennym fel Gwasanaeth sydd Angen Gwelliant Sylweddol ym mis Chwefror 2022.
Felly, rydym wedi penderfynu cynnal adolygiad lleol o fewn gwasanaethau fasgwlaidd y bwrdd iechyd, a fydd yn archwilio’r cynnydd a wnaed gan y bwrdd iechyd mewn perthynas â phob argymhelliad a amlygwyd yn adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, er mwyn cael sicrwydd ynghylch diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu.
Ein nod yw cyhoeddi canfyddiadau’r adolygiad ar ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Dysgu a Dealltwriaeth
Gofal Deintyddol
Yn dilyn gwaith sicrwydd diweddar, mae AGIC wedi adrodd dro ar ôl tro ar nifer o faterion o fewn practisau deintyddol ledled Cymru, yn enwedig o fewn gwasanaethau gofal iechyd annibynnol. Er yr adroddwyd am amrywiaeth o faterion, mae rhai themâu allweddol wedi dod i'r amlwg trwy ein harolygiadau a'n gwiriadau ansawdd. Mewn rhai amgylchiadau, bu'n rhaid i ni ofyn i'r practisau gymryd camau ar unwaith i leihau risgiau i ddiogelwch cleifion.
ydym am dynnu sylw at y themâu cyffredin hyn, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn o gymorth i chi a’ch staff wrth feddwl am sut y gallwn ni i gyd gyfrannu at wneud gofal deintyddol yn fwy diogel ac effeithiol.
Y meysydd a oedd yn peri pryder i ni yn ystod ein gwaith sicrwydd oedd fel a ganlyn:
Amgylcheddol:
- Safon wael o lanweithdra mewn mannau dihalogi. Mewn rhai practisau, daeth arolygwyr AGIC o hyd i brosesau dihalogi aneffeithiol, gan gynnwys glanhau offer yn annigonol a defnydd aneffeithiol o lwybrau ‘budr/glân’.
- Gwnaethom nodi bod eitemau wedi'u storio'n amhriodol mewn clinigau ac ystafelloedd dihalogi megis bwyd a deunyddiau glanhau, gan gynnwys nifer uchel o oergelloedd clinigol sy'n cynnwys eitemau anghlinigol megis bwyd a meddyginiaeth sydd wedi dyddio. Dylai practisau sicrhau bod gweithdrefnau ar waith i leihau'r risg o halogi ac i gefnogi safonau da o brosesau atal a rheoli heintiau.
- Gwelsom nifer o enghreifftiau hefyd o bractisau nad oeddent yn cynnal archwiliadau o'u gwaith. Mae archwiliadau’n cynnig cyfle i adolygu cysondeb ac ansawdd y gofal a’r driniaeth a ddarperir i gleifion ac maent yn offeryn gwella ansawdd a all ddwyn llawer o fanteision a chefnogi gwelliant ymarfer gwell.
- Nid oedd gan nifer o bractisau system ar waith a oedd yn sicrhau bod yr holl asesiadau risg yn cael eu diweddaru. Gwelsom fod rhai asesiadau risg tân wedi dyddio ac nid oedd ymarferion tân yn cael eu cynnal ac nid oedd tystiolaeth ohonynt. Mae asesiadau risg yn offeryn rheoli pwysig sy'n helpu i gadw cleifion a staff yn ddiogel a dylid eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd i leihau risgiau.
- Tynnodd yr arolygwyr sylw at y gwaith cynnal a chadw gwael ar becynnau cymorth cyntaf, cyffuriau a ddefnyddir mewn achos brys ac offer dadebru – roedd rhai yn cynnwys eitemau sydd wedi dyddio a oedd yn peri risg sylweddol i gleifion.
Staffio:
- Roedd angen i fwyafrif y practisau deintyddol wella’u dogfennaeth wrth gofnodi hyfforddiant staff a rhoi tystiolaeth bod yr holl staff yn cwblhau sesiynau hyfforddiant gorfodol.
- Roedd arfarniadau blynyddol, goruchwyliaeth glinigol a chyfarfodydd staff yn aml yn cael eu hanwybyddu. Rydym yn cydnabod bod yr agweddau hyn wedi bod yn heriol i’w cynnal ar adegau yn ystod pandemig COVID-19, ond rhaid i bractisau barhau i flaenoriaethu hyn i gefnogi eu staff.
Cyffredinol:
- Trwy ein gwaith sicrwydd, nododd yr arolygwyr fod gan bractisau wybodaeth am lenyddiaeth addysgiadol a oedd wedi dyddio neu’n anghywir gan gynnwys taflenni gofal cleifion. Dylai practisau gynnal archwiliadau rheolaidd o ddeunyddiau i sicrhau bod yr wybodaeth sydd ar gael i gleifion a staff yn berthnasol ac yn gywir.
Dylai practisau deintyddol sicrhau eu bod yn ystyried y canfyddiadau uchod, gan ystyried a allant gymhwyso unrhyw ran o'r dysgu hwn i'w gwasanaeth i wella ansawdd a diogelwch y gofal a'r driniaeth a ddarperir.
Dweud eich Dweud
Rydym yn cynnal arolygon pan hoffem gael eich barn ar bynciau penodol.
Mae gennym amrediad o arolygon staff a chleifion ar agor ar hyn o bryd ac rydym yn croesawu eich barn ar unrhyw un o'r pynciau.
Gellir bellach weld yr holl arolygon sydd ar agor ar ein tudalen arolygon ar ein gwefan.
Oes gennych chi funud?
Byddem wrth ein bodd yn gwybod beth yw eich barn chi am ein Bwletin Cipolwg – dim ond ychydig o gwestiynau a dyna ni!