Mae adroddiad AGIC yn nodi ‘risgiau i gleifion’ a ‘phryderon sylweddol’ yn Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (8 Awst 2022) yn tynnu sylw at yr angen am welliant brys yn yr adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl.
Nododd arolygiad AGIC nad oedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drefniadau digonol ar waith yn yr adran i gefnogi darpariaeth gofal iechyd diogel.
Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o'r adran achosion brys am dri diwrnod yn olynol ym mis Mai eleni. Cynhaliwyd yr arolygiad hwn i fynd ar drywydd y pryderon sylweddol a nodwyd gan AGIC yn ystod gwiriad ansawdd blaenorol a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2022.
Daeth ein harolygwyr i’r casgliad bod diffyg gwelliant i safon dderbyniol mewn perthynas â’r pryderon a nodwyd ym mis Mawrth 2022. O ganlyniad, dynododd AGIC yr adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn Wasanaeth sydd Angen ei Wella’n Sylweddol ar 9 Mai 2022. At hynny, nododd arolygiad mis Mai sawl maes ychwanegol o bryder sy’n ymwneud â diogelwch cleifion.
Amlygodd yr archwiliad ar y safle ym mis Mai fod yr adran achosion brys yn profi cyfnod o alw di-ildio ar ei gwasanaethau. Nododd AGIC fod y staff mewn amgylchedd dan bwysau mawr, gan weithio y tu hwnt i'r disgwyl mewn amodau heriol. Fodd bynnag, canfu AGIC nad oedd y bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llwyr â nifer o'r Safonau Iechyd a Gofal, a phwysleisiodd feysydd o bryder sylweddol a allai gyflwyno risg uniongyrchol i ddiogelwch cleifion.
Roedd y pryderon hyn yn ymwneud ag effeithiolrwydd trefniadau ar gyfer asesu, monitro, arsylwi ac uwchgyfeirio cleifion sâl neu gleifion sy'n gwaethygu. Nododd AGIC hefyd fod ansawdd y ddogfennaeth nyrsio yn llawer is na'r safon ofynnol a chanfuwyd tystiolaeth o reolaeth wael o risgiau iechyd a diogelwch, megis trefniadau dod i mewn a gadael yr ardal bediatrig nad oeddent yn ddiogel. Roedd gweithdrefnau atal a rheoli heintiau hefyd yn annigonol.
O ganlyniad, ni chafodd AGIC ei sicrhau bod y prosesau a systemau ar waith yn ddigonol i sicrhau bod y cleifion yn derbyn yn gyson safon dderbyniol o ofal amserol, diogel ac effeithiol.
Canfu AGIC nad oedd ansawdd y rheolaeth a’r arweinyddiaeth wedi’i ffocysu’n ddigonol nac yn ddigon cadarn, ac roedd yn bryderus i ganfod nad oedd y trefniadau ar gyfer goruchwylio wedi galluogi’r bwrdd iechyd i sylwi ar y materion a nodwyd gan AGIC yn ystod yr arolygiad.
Amlygodd AGIC feysydd lle'r oedd angen gweithredu ar unwaith er mwyn cadw’r cleifion yn ddiogel. Mae AGIC wedi annog y bwrdd iechyd i ystyried holl ganfyddiadau'r adolygiad hwn yn ofalus a chymryd camau i leihau'r posibilrwydd o niwed sylweddol i’r cleifion ac i ymgorffori pob gwelliant mewn ymarfer.
Mae'r dynodiad Gwasanaeth sydd Angen ei Wella’n Sylweddol sy’n berthnasol i’r adran achosion brys ar hyn o bryd yn ein galluogi i gynllunio a chyflawni gweithgareddau angenrheidiol yn y dyfodol i gael sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch gofal yn y gwasanaeth hwnnw.
Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:
Mae’r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn peri pryder mawr, ac rydym wedi annog y bwrdd iechyd i gymryd camau ar unwaith i amddiffyn y cleifion rhag y risgiau a nodwyd. Mae'r dynodiad wedi'i bennu i gryfhau a chyflymu'r mesurau a gymerwyd i ysgogi gwelliannau amserol o fewn y gwasanaeth. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwelliannau cadarn yn cael eu gwneud mewn modd amserol, a byddwn yn ystyried amseriad unrhyw weithgarwch dilynol, y bydd angen tystiolaeth ohono.