Mae AGIC yn dynodi Gwasanaethau Fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Gwasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol
Yn unol â ein proses gwasanaethau sy’n peri pryder GIG, mae AGIC wedi dynodi gwasanaeth fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Gwasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol.
Mae'r dynodiad Gwasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol yn ein galluogi i gynllunio a darparu gweithgareddau yn y dyfodol sy'n angenrheidiol i gael sicrwydd am ansawdd a diogelwch gofal yn y gwasanaeth hwnnw. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud mewn modd amserol. Byddwn wedyn yn ystyried a ellir isgyfeirio’r gwasanaeth a'i dynnu o'r broses hon.
Cyflwynwyd proses gwasanaethau sy’n peri pryder AGIC ar gyfer y GIG ym mis Tachwedd 2021. Fe'i defnyddir pan fyddwn yn nodi methiannau sylweddol mewn gwasanaethau, neu pan fydd pryderon yn cronni am wasanaeth neu leoliad. Bwriad y broses yw cefnogi gwelliant a dysgu, ar gyfer y gwasanaeth dan sylw, ac ar draws gwasanaethau'r GIG yn ehangach.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar gael ar ein gwefan.