Cefnogi gwasanaethau i wella – Proses Gwasanaeth o Bryder ar gyfer cyrff y GIG yng Nghymru
Rôl AGIC yw gwirio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru i ganfod a yw pobl yn derbyn gofal da. Pan ydym yn canfod nad yw hyn yn wir trwy ein gwaith, rydym yn gweithredu fel bod byrddau iechyd a'u gwasanaethau yn gwybod lle mae angen iddynt wneud gwelliannau.
Rôl AGIC yw gwirio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru i ganfod a yw pobl yn derbyn gofal da. Pan ydym yn canfod nad yw hyn yn wir trwy ein gwaith, rydym yn gweithredu fel bod byrddau iechyd a'u gwasanaethau yn gwybod lle mae angen iddynt wneud gwelliannau.
Rydym yn gwirio gwasanaethau'r GIG yn erbyn Safonau Iechyd a Gofal 2015:
Rydym hefyd yn gwirio yn erbyn safonau proffesiynol a chanllawiau proffesiynol perthnasol.
Mae'n flaenoriaeth allweddol inni fod y gwaith yr ydym yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth a bod cyfathrebu clir yn ei gylch. Rydym yn cyflwyno proses Gwasanaeth o Bryder i'r GIG o heddiw ymlaen, sef 15 Tachwedd 2021.
Byddwn yn defnyddio'r broses hon pan fyddwn yn nodi methiannau gwasanaeth sylweddol (gallai'r rhain fod yn achlysuron unigol), neu pan fydd casgliad o bryderon ynghylch gwasanaeth neu leoliad. Rydym eisoes yn defnyddio'r broses hon yn ein gwaith mewn lleoliadau gofal iechyd annibynnol.
Ein bwriad wrth gyflwyno'r broses hon yw cefnogi gwelliant a dysgu, i'r gwasanaeth dan sylw ac ar draws gwasanaethau’r GIG yn ehangach. Bydd y broses hon yn ein galluogi i dynnu sylw at Wasanaeth sydd Angen Gwelliant Sylweddol, gan alluogi ystod o randdeiliaid, gan gynnwys byrddau iechyd, i gymryd y camau brys angenrheidiol i sicrhau y gellir darparu gofal diogel ac effeithiol i bobl.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr dros dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Dyma gam pwysig i AGIC wrth inni geisio parhau i herio a chefnogi gwasanaethau gofal iechyd i wneud gwelliannau. Wedi'i defnyddio yn yr achosion mwyaf sylweddol, bydd y broses Gwasanaeth o Bryder yn cryfhau'r camau gweithredu yr ydym yn eu cymryd i ysgogi gwelliant a'r negeseuon yr ydym yn eu rhannu pan fydd gwasanaethau'n perfformio’n sylweddol is na'r safon sydd ei hangen.