Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o wasanaethau gofal iechyd cyffredinol i bobl ifanc

Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cyhoeddi ei adroddiad thematig: ‘Sut y mae gwasanaethau gofal iechyd yn diwallu anghenion pobl ifanc?’ Mae AGIC wedi gwneud 37 o argymhellion ar gyfer gwella.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o waith thematig ehangach a gynhaliwyd ar y cyd gan Arolygu Cymru (Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru).

Mae'r adolygiad yn dwyn themâu allweddol ynghyd sydd wedi deillio o arolygiadau a gynhaliwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) i gleifion mewnol, triniaethau ar gyfer cyflyrau iechyd corfforol mewn ysbytai a gofal mewn hosbisau plant.

Mae'r adolygiad wedi canolbwyntio ar y canlynol:
• Gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS)
• Gwasanaethau gofal iechyd cyffredinol i bobl ifanc.
• Cefnogi pobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a gofal lliniarol
• Trosglwyddo o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau gofal iechyd oedolion.

Ar y cyfan, gwelsom fod pobl ifanc at ei gilydd yn cael profiadau da o ofal yn y gwasanaethau. Gwelsom hefyd fod y staff yn gweithio'n galed i ddarparu gofal tosturiol ac urddasol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Fodd bynnag, rydym yn poeni am allu unedau cleifion mewnol CAMHS yng Nghymru i letya pobl risg uchel. Golyga hyn nad yw pobl ifanc bob amser yn gallu cael gofal amserol yn agos at eu cartrefi a bod yn rhaid i rai ohonynt gael eu lleoli y tu allan i'w hardaloedd. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r broblem hon.

Mae hefyd yn siomedig bod llawer o'r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth symud rhwng gwasanaethau plant ac oedolion yn dra hysbys ond yn parhau i gael eu gweld. Mae angen i'r byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru wneud mwy o waith i sicrhau trefniadau trosglwyddo didrafferth ac effeithiol i bobl ifanc ledled Cymru i'w helpu wrth iddynt ddod yn oedolion.

Rydym yn disgwyl y bydd yr adolygiad hwn yn hybu gwelliant, ac y bydd y canfyddiadau a'r argymhellion yn cael eu hystyried yn ofalus gan Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd.