Adolygiad ar y cyd ynglŷn â'r cymorth gofal iechyd i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yn y Gogledd
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal adolygiad ar y cyd ar y ffordd y gallwn gydweithio i sicrhau bod anghenion gofal iechyd pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yn y Gogledd yn cael eu diwallu.
Cynhaliwyd yr adolygiad mewn ymateb i adroddiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, "Lle i'w Alw'n Gartref", a gyhoeddwyd yn 2014.
Nod yr adolygiad hwn oedd archwilio'r canlynol:
• Y ffordd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) yn diwallu anghenion gofal iechyd pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal preswyl neu nyrsio, naill ai'n uniongyrchol drwy ddarparu gwasanaethau, neu drwy ei drefniadau contractio â darparwyr gofal sylfaenol.
• Profiad Rheolwyr Cartrefi Gofal o gael gafael ar gymorth gofal iechyd i bobl gan y GIG
• Y ffordd y gall Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) weithio mewn ffordd fwy integredig i wella'r canlyniadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.
Edrychom ar gartrefi gofal y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn eu darparu mewn chwe sir yn y Gogledd: Sir Fôn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Sefydlwyd grŵp ymgynghorol er mwyn helpu i lunio a llywio'r adolygiad. Roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o ddarparwyr, y bwrdd iechyd, comisiynwyr yr awdurdod lleol, y Comisiynydd Pobl Hŷn a chydweithwyr polisi o Lywodraeth Cymru.
Roedd yr adolygiad yn ystyried hygyrchedd, amseroldeb ac effeithiolrwydd amrywiaeth o gymorth gofal iechyd.
Roedd yr adborth yn amrywiol yn y rhan fwyaf o'r meysydd gwasanaeth a ystyriwyd, ond roedd angen mynd i'r afael â rhai materion cyffredin er mwyn darparu gofal di-dor ac o ansawdd da i breswylwyr a chleifion unigol.
Mae'r adroddiad yn nodi 16 o feysydd ar gyfer gwella. Bydd AGIC/AGC yn gweithredu arnynt lle y bo'n briodol.