Adolygiad cenedlaethol o wasanaethau gofal iechyd i bobl ifanc - canfyddiadau'n dangos darlun cymysg
Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cyhoeddi ei adroddiad thematig: ‘Sut y mae gwasanaethau gofal iechyd yn diwallu anghenion pobl ifanc?’ Mae AGIC wedi gwneud 37 o argymhellion ar gyfer gwella.
Cynhaliodd AGIC adolygiad o'r ffordd y mae gwasanaethau gofal iechyd yn diwallu anghenion pobl ifanc, gan gynnwys y rheini sydd angen trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Mae'r gwaith hwn yn rhan o waith thematig ehangach a gynhaliwyd ar y cyd gan Arolygu Cymru (Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru).
Mae'r adolygiad, a gyhoeddwyd am 8am 29 Mawrth 2019, yn dwyn themâu allweddol ynghyd sydd wedi deillio o arolygiadau a gynhaliwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) i gleifion mewnol, triniaethau ar gyfer cyflyrau iechyd corfforol mewn ysbytai a gofal mewn hosbisau plant.
Mae'r adolygiad wedi canolbwyntio ar y canlynol:
• Gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS)
• Gwasanaethau gofal iechyd cyffredinol i bobl ifanc
• Cefnogi pobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a gofal lliniarol
• Trosglwyddo o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau gofal iechyd oedolion.
Ar y cyfan, canfu'r adolygiad fod pobl ifanc at ei gilydd yn cael profiadau da o ofal yn y gwasanaethau. Gwelsom hefyd fod y staff yn gweithio'n galed i ddarparu gofal tosturiol ac urddasol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Fodd bynnag, rydym yn poeni am allu unedau cleifion mewnol CAMHS yng Nghymru i letya pobl risg uchel. Golyga hyn nad yw pobl ifanc bob amser yn gallu cael gofal amserol yn agos at eu cartrefi a bod yn rhaid i rai ohonynt gael eu lleoli y tu allan i'w hardaloedd. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r broblem hon.
Mae hefyd yn siomedig bod llawer o'r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth symud rhwng gwasanaethau plant ac oedolion yn dra hysbys ond yn parhau i gael eu gweld. Mae angen i'r byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru wneud mwy o waith i sicrhau trefniadau trosglwyddo didrafferth ac effeithiol i bobl ifanc ledled Cymru i'w helpu wrth iddynt ddod yn oedolion.
Mae'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys y canlynol:
GWASANAETH IECHYD MEDDWL PLANT A'R GLASOED (CAMHS)
• Mae'r staff yn gweithio'n galed i ddarparu gofal tosturiol, urddasol sy'n canolbwyntio ar y person, a cheir tystiolaeth o gydweithio amlddisgyblaethol
• Nid oedd modd i ni fod yn siŵr bob amser bod cleifion yn cael gofal diogel ac effeithiol am i ni weld gwendidau yn ymwneud â'r systemau ar gyfer sicrhau gofal diogel, gan gynnwys systemau ar gyfer dod o hyd i gyfarpar argyfwng
• Mae gennym bryderon am allu unedau CAMHS ledled Cymru i letya pobl ifanc risg uchel, oherwydd heriau yn ymwneud â staffio, yr amgylchedd a rheolaeth ac arweinyddiaeth effeithiol. Mae'n destun pryder i ni bod hyn yn golygu bod yn rhaid i rai pobl ifanc gael eu lleoli y tu allan i'w hardaloedd.
Gwasanaethau gofal iechyd cyffredinol i bobl ifanc.
• Yn gyffredinol, gwelsom fod y plant a'r bobl ifanc yn cael gofal diogel ac effeithiol
• Roedd angen i'r gwasanaethau wneud gwelliannau er mwyn sicrhau bod y bobl ifanc yn cael gofal amserol mewn adrannau achosion brys ac ar gyfer triniaethau ymwthiol
• Roedd agweddau ar y ddogfennaeth ofal nad oedd bob amser yn cael eu cwblhau ac roedd nifer o staff nad oeddent wedi cwblhau hyfforddiant ar sut i ddiogelu plant sy'n wynebu risg.
Cefnogi pobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a gofal lliniarol
• Roedd y bobl ifanc yn cael gofal diogel ac effeithiol, a gwelsom fod y staff yn garedig ac yn ofalgar a bod cefnogaeth dda ar gael i deuluoedd
• Roedd y gofal yn cael ei deilwra at anghenion penodol y bobl ifanc, gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am eu gofal
• Roedd staff hosbisau yn arbennig yn dangos parch at ddymuniadau pobl ifanc a'u teuluoedd ar gyfer gofal diwedd oes ac ar ôl marwolaeth.
Trosglwyddo o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau gofal iechyd oedolion
• Roedd y darlun ar draws Cymru yn amrywiol ac yn anghyson
• Gwelsom enghreifftiau lle roedd y broses drosglwyddo wedi'i brysio, ac nad oeddent bob amser yn dechrau'n ddigon cynnar
• I bobl ifanc ag anghenion cymhleth, gall y trosglwyddo hyn ddigwydd mewn ffordd ddarniog a gall deimlo fel 'syrthio oddi ar glogwyn’
• Mae gwahaniaethau rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion yn golygu nad oedd yr unigolion bob amser yn cael yr un lefel o ofal, a'i bod yn bosibl na fyddai gwasanaeth oedolion cyfatebol i'r person ifanc drosglwyddo iddo.
Rydym yn disgwyl y bydd yr adolygiad hwn yn hybu gwelliant, ac y bydd y canfyddiadau a'r argymhellion yn cael eu hystyried yn ofalus gan Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd.