Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Lleol o'r Trefniadau Rheoli Cleifion yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymrwymodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ein cynllun gweithredol 2019-20 i gynnal gwaith ym mhob un o dair Ymddiriedolaeth y GIG yng Nghymru.

O ganlyniad i bryderon ledled Cymru ynghylch amseroedd aros am ambiwlans, rydym yn cynnal adolygiad lleol o Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Byddwn yn archwilio sut y caiff y risgiau i iechyd, diogelwch a lles cleifion eu rheoli wrth iddynt aros am ambiwlans. Bydd yr adolygiad yn asesu'n benodol y ffordd y caiff cleifion eu rheoli gan dair Canolfan Cysylltiadau Clinigol yr Ymddiriedolaeth ledled Cymru, unwaith y bydd cais am ambiwlans wedi cael ei dderbyn, hyd at yr adeg y bydd yr ambiwlans yn cyrraedd y claf.

Mae cylch gorchwyl yr adolygiad wedi'i atodi isod.