Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o Drefniadau Llywodraethu Clinigol: Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Adolygiad o Drefniadau Llywodraethu Clinigol: Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Yn ystod 2013, lleisiodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon bryderon a oedd ganddo wrth AGIC ynglŷn â rheoli rhestrau aros ar gyfer llawdriniaeth gardiaidd ddewisol yn ne Cymru. Yng Nghymru, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru sy'n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau arbenigol megis llawdriniaeth gardiaidd ddewisol.

Yng ngoleuni'r pryderon a leisiwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, penderfynodd AGIC addasu ei chynllun gweithredol ar gyfer 2014-2015, er mwyn iddo gynnwys adolygiad o’r trefniadau llywodraethu clinigol sydd ar waith gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, a sut y mae'r rhain yn effeithio ar ganlyniadau ar gyfer cleifion. Er mwyn deall y trefniadau llywodraethu clinigol hyn, penderfynodd AGIC ganolbwyntio ar wasanaethau'r galon. 

Felly, roedd AGIC yn ystyried y canlynol yn ystod ei harolygiad:

  • Llwybr gofal gwasanaethau'r galon – er mwyn gwerthuso darpariaeth gwasanaethau sy'n rhoi'r safonau gorau ag y bo modd, o fewn yr adnoddau sydd ar gael
  • Y broses rheoli atgyfeiriadau – er mwyn cael dealltwriaeth o sut mae'r broses atgyfeirio'n cael ei rheoli
  • Unrhyw faterion eraill sy'n berthnasol i'n hadolygiad

Y bwriad yw y bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn defnyddio'r argymhellion a wnaed yn yr adolygiad hwn i wella ei drefniadau llywodraethu clinigol ar draws pob un o'i wasanaethau.