Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o Fron Brawf Cymru yn nodi bod menywod o'r farn bod eu profiad yn ardderchog, ond bod angen gwneud mwy

Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad o'r ffordd y mae Bron Brawf Cymru yn rheoli’r broses o sgrinio'r fron i fenywod sy'n cael canlyniad mamogram abnormal.

Bron Brawf Cymru yw'r isadran yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n rheoli'r rhaglen sgrinio canser y fron genedlaethol i fenywod rhwng 50 a 70 oed ar gyfer GIG Cymru. Gwahoddir menywod sy'n cael canlyniad mamogram abnormal ar ôl cael eu sgrinio gan Fron Brawf Cymru i ddod i glinig asesu i gael mwy o brofion.

Mae'n bwysig nodi y cafodd yr adolygiad hwn a'r gwaith maes eu cynnal cyn pandemig COVID-19 a'n bod wedi oedi'r broses o gyhoeddi'r adroddiad hwn yn sgil ein mesurau i leihau baich ein gwaith ar wasanaethau pan oedd y pandemig ar ei waethaf. Felly, nid yw'r adolygiad wedi ymchwilio i'r ffordd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyflawni ei rôl yn ystod y pandemig.

Nododd ein hadolygiad fod y gwasanaeth yn drefnus a bod y staff yn ymroddedig, ac yn teimlo ar y cyfan eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rolau, gyda threfniadau cadarn i sicrhau y darperir gwasanaeth o ansawdd uchel. Fodd bynnag, o ganlyniad i brinder staff mewn rhai rhannau o Gymru, mae gwahaniaethau mawr o ran amseroldeb y gofal dilynol a geir gan fenywod.

Nododd AGIC fod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag amseroldeb, a bod menywod wedi cael profiad ardderchog ar ôl cael eu hailalw i ddod i glinig asesu. Roedd yr ymatebion i'r arolwg hefyd yn canmol proffesiynoldeb y staff a'r gofal roeddent yn ei roi.

Er mai canran fach iawn o'r menywod a gaiff eu gwahodd i ddod i'r clinig asesu sydd â chanser y fron, gall y profiad o gael eu hailalw i gael mwy o brofion achosi pryder a gofid sylweddol.  Roedd canlyniadau'r adolygiad yn pwysleisio'r ffaith bod y staff yn credu'n gryf ei bod yn bwysig helpu i leihau pryder menywod cymaint â phosibl drwy gydol y broses.

Nododd yr adolygiad mai menywod yn y gorllewin oedd yn wynebu'r cyfnod aros hiraf i gael apwyntiad dilynol, ac mai menywod yng y gogledd oedd yn aros am y cyfnod byrraf. Roedd rhai menywod yn y gorllewin wedi aros chwe wythnos neu fwy i gael apwyntiad mewn clinig asesu, sy'n ddwywaith y targed cenedlaethol, sef tair wythnos. Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i swyddi gwag ar gyfer staff meddygol sy'n rhedeg clinigau asesu. Mae problemau recriwtio hefyd yn effeithio ar dde-ddwyrain Cymru.

Mae Bron Brawf Cymru wedi ymateb i'r materion hyn drwy ddull cydweithredol o rannu staff rhwng y de-ddwyrain a'r gorllewin. Yn ogystal, mae'r gogledd yn cwblhau cyfran fawr o'r gwaith adrodd ar ddelweddau mamogram ar gyfer y gorllewin. Mae'r camau hyn wedi arwain at welliant sylweddol o ran amseroldeb y gofal. Fodd bynnag, mae dal angen cynllun hirdymor cynaliadwy ar gyfer y gweithlu er mwyn sicrhau yr eir i'r afael â'r materion hyn.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Gall dod o hyd i annormaledd ar ôl mamogram fod yn brofiad pryderus, gan arwain at bryder neu ofid. Felly roedd yn galonogol nodi'r adborth cadarnhaol a gafwyd gan fenywod a oedd wedi mynd i un o'r clinigau asesu. Nododd ein hadolygiad fod Bron Brawf Cymru yn wasanaeth trefnus gyda staff ymroddedig a threfniadau cadarn i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel.

Fodd bynnag, mae anghysondebau o ran amseroldeb y gofal dilynol yn peri pryder. Er bod prosesau newydd i wella'r gwasanaeth wedi cael eu rhoi ar waith, rydym yn argymell y dylai Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer y gweithlu a'i roi ar waith er mwyn darparu gwasanaeth cynaliadwy a chyfartal ledled Cymru.”