Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o Ofal Integredig: Canolbwyntio ar Gwympiadau

Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad cenedlaethol diweddaraf – Adolygiad o Ofal Integredig: Canolbwyntio ar Gwympiadau.

Mae'r adolygiad hwn yn ddull newydd o gynnal adolygiadau cenedlaethol i AGIC. Adolygon ac ymchwilion ni llwybr gofal cyfan – gan adlewyrchu nodweddion systemau gofal integredig cymhleth gofal iechyd modern.

Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at bymtheg thema sy'n bwysig i staff sy'n gweithio gyda phobl hŷn sydd mewn perygl o ddioddef cwymp, ac i reolwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r adolygiad yn gwneud wyth argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol

Cynhaliwyd gwaith maes mewn tair ardal bwrdd iechyd gan edrych ar hyd y llwybr gofal, o atal cwympiadau i ail-alluogi yn dilyn y digwyddiad, a sut mae'r themâu a nodwyd yn ymwneud â hyrwyddo gofal di-dor o ansawdd da.

Bydd yr argymhellion a wnaed gennym yn helpu i lywio gofal integredig yn gyffredinol, ac yn benodol yn achos cwympiadau ymhlith pobl hŷn.

Fel rhan o'r adolygiad, mae AGIC yn nodi enghreifftiau o lwybrau uchelgeisiol a chamweithredol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn yr adroddiad. Mae AGIC wedi llunio cyfres o fideos wedi'u hanimeiddio i gyd-fynd â'r adolygiad er mwyn esbonio profiad unigolion o'r llwybr cwympiadau yn well.

Mae'r animeiddiadau'n tywys y gwyliwr gam wrth gam drwy'r llwybr, a'u nod yw helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r cyhoedd i ddeall sut beth y gallai llwybr cwympiadau delfrydol fod.

Mae yna pump fideo wedi'u hanimeiddio sy'n cwmpasu'r canlynol:

  1. Atal niwed wrth gwympo a hyrwyddo annibyniaeth i bobl sy'n byw yn eu cartref eu hunain
  2. Atal niwed wrth gwympo a hyrwyddo annibyniaeth i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal
  3. Ymateb i gwymp ar gyfer unigolyn sy'n byw yn ei gartref ei hun
  4. Ymateb i gwymp ar gyfer unigolyn sy'n byw mewn cartref gofal
  5. Yn dilyn ymweliad â'r ysbyty ar ôl cwympo

Maent ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar ein sianel YouTube.