Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod Goruchwylio Lleol 2016-17

Mae'r adroddiad blynyddol terfynol ar sicrhau ansawdd yr Awdurdod Goruchwylio Lleol (AGLl) ar gyfer Cymru wedi'i gyhoeddi heddiw.

Ers 2014, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), ar ran Gweinidogion Cymru, wedi cyflawni swyddogaeth yr Awdurdod Goruchwylio Lleol ar gyfer Cymru.

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn edrych yn ôl ar waith yr Awdurdod Goruchwylio Lleol a'r gweithgareddau goruchwylio yn ystod 2016-17. Mae hefyd yn edrych ymlaen at y dyfodol o oruchwyliaeth bydwreigiaeth yng Nghymru gyda'r model newydd, Goruchwyliwr Clinigol o Fydwragedd, a arweinir gan gyflogwyr yn dilyn diwedd goruchwyliaeth statudol o 31 Mawrth 2017.

Mae gwybodaeth am ein canfyddiadau ar gael yn yr adroddiad isod.