Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad monitro blynyddol y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid 2020-21

Darllenwch ymlaen i ddysgu am ganfyddiadau allweddol ein hadroddiad blynyddol diweddaraf ar y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, a gynhyrchwyd ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Mae gan AGIC ac AGC gyfrifoldeb ar y cyd am fonitro ac adrodd ar y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, a bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ceisiadau a dderbynnir gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol.

Beth yw'r trefniadau diogelu?

Mae’r trefniadau diogelu yn bodoli i ymrymuso ac amddiffyn unigolion sydd â diffyg galluedd meddyliol. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol i atal achosion o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol gan fod yn rhaid ceisio awdurdodiad cyn y gellir amddifadu rhywun o'i ryddid.

Canfyddiadau Allweddol 2020-21

  • Yn gyffredinol, cafwyd gostyngiad yn nifer y ceisiadau o dan y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid a gafwyd gan gyrff goruchwylio yn 2020-21.
  • O gymharu â'r flwyddyn flaenorol, bu gostyngiad o 6% yng nghyfanswm nifer y ceisiadau o dan y trefniadau diogelu i fyrddau iechyd. Nododd tri o’r saith bwrdd iechyd y bu gostyngiad.
  • O’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, bu gostyngiad o 12% yng nghyfanswm nifer y ceisiadau o dan y trefniadau diogelu i awdurdodau lleol. Nododd 18 o’r 22 awdurdod lleol y bu gostyngiad.
  • Cafodd y pandemig COVID-19 effaith sylweddol ar broses asesu’r trefniadau diogelu. Roedd yn rhaid i wasanaethau addasu eu harferion gwaith i leihau'r risg o haint. Roedd llawer o unigolion mewn ysbytai hefyd yn cael eu rhyddhau neu eu trosglwyddo'n gyflym a chafodd ceisiadau o dan y trefniadau diogelu eu tynnu'n ôl cyn iddynt gael eu hasesu.
  • Mae mwyafrif y ceisiadau o dan y trefniadau diogelu yn parhau i fod ar gyfer pobl hŷn, gydag 87% o'r ceisiadau ar gyfer pobl sy'n 65 oed a throsodd. Mae'r rhan fwyaf o'r ceisiadau o dan y trefniadau diogelu yn parhau i fod gan gartrefi gofal i bobl hŷn, a chan wardiau ysbytai i oedolion hŷn.
  • Yn ystod y tair blynedd diwethaf, bu cynnydd yn nifer yr adolygiadau o dan y trefniadau diogelu a wnaed a'r sylwadau a wnaed gan Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol.
  • Bu cynnydd yng nghyfran yr awdurdodiadau a gyfeiriwyd i'r Llys Amddiffyn o un flwyddyn i’r llall ar gyfer y cyfnod 2018-21.

Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol isod.