Neidio i'r prif gynnwy

AGIC a AGC yn cyhoeddi Adolygiad Thematig ar y Cyd o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) heddiw yn cyhoeddi ei Adolygiad Thematig ar y Cyd o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol ac wedi gwneud 23 argymhelliad ar gyfer gwella.

Mae'r adolygiad hwn yn ymateb yn bennaf i adroddiad a gyhoeddwyd gan AGIC ym mis Mawrth 2016: Adolygiadau Allanol Annibynnol o Achosion o Ddynladdiad - Gwerthusiad o adolygiadau a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ers 2007. Wrth ystyried natur integredig gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, cytunwyd y byddai'r adolygiad yn cael ei gynnal ar y cyd ag AGC.

Mae'r adolygiad hwn yn dwyn themâu allweddol ynghyd sydd wedi deillio o'nharolygiadau ar y cyd o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol ledled Cymru, ynghyd agymgysylltu â phobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau, gofalwyr a'r trydydd sector.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Dr Kate Chamberlain:

Mae'r adolygiad hwn ar ycyd wedi pwysleisio anghysondebau yn y modd y mae gofal a chymorth yn cael eudarparu gan Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol ledled Cymru.

Er ein bod wedi nodi ymrwymiad y rheini sy'n gweithio yn y gwasanaethau hyn iddarparu'r gofal gorau a allant, mae'r her i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda salwchmeddwl yn cael gofal teg, lle bynnag maent yn byw, yn parhau.

Rydym yn gobeithio y bydd yr adolygiad hwn yn hybu gwelliant, a bod ycanfyddiadau a'r argymhellion yn cael eu hystyried yn ofalus gan Lywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol.

Meddai Prif Arolygydd AGC Gillian Baranski:

Mae sicrhau bod pobl sydd aganghenion iechyd meddwl, a'u gofalwyr, yn cael gofal a chymorth di-dor gan DimauIechyd Meddwl Cymunedol yn hanfodol. Mae'r adolygiad hwn wedi pwysleisiomeysydd lle mae gweithio ar y cyd rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yngweithio'n dda ac wedi nodi meysydd lle mae angen gwella gweithio ar y cyd ermwyn sicrhau bod pobl yn cael canlyniadau cadarnhaol.