Alun Jones wedi'i gyhoeddi fel Prif Weithredwr newydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
Mae Alun Jones wedi’i benodi’n Brif Weithredwr newydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), yr arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru.
Ymunodd Alun ag AGIC ym mis Ebrill 2014 ac mae wedi bod yn arwain y sefydliad fel Prif Weithredwr Dros Dro ers mis Ebrill 2020, yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol i ofal iechyd yn ddiweddar. Bydd Alun yn cael ei gefnogi gan y Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu, Abubakar Askira a Katherine Williams, Cyfarwyddwr Cyngor Clinigol a Llywodraethu Ansawdd.
Daw Alun o Gymru ac mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad o weithio ym maes archwilio, arolygu a rheoleiddio. Yn y gorffennol, mae wedi gweithio i'r Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Gofal Iechyd a'r Comisiwn Ansawdd Gofal, lle bu'n arwain cyfraniad y Comisiwn Ansawdd Gofal i Ymchwiliad Cyhoeddus Canolbarth Swydd Stafford.
Wrth dderbyn y swydd fel Prif Weithredwr, dywedodd Alun Jones:
“Braint fawr yw cael fy mhenodi i barhau i arwain y sefydliad wrth iddo geisio cyflawni ei nod o ddylanwadu ar safonau ac ysgogi gwelliant yn y system gofal iechyd. Mae gan AGIC rôl sylweddol i'w chwarae i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal iechyd o ansawdd da. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes ar waith a chydweithio ag eraill ledled Cymru i wella gofal iechyd i bobl a chymunedau."