Neidio i'r prif gynnwy

Ansawdd gwybodaeth am ryddhau cleifion o'r ysbyty yn effeithio ar eu gofal

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn adolygiad o ryddhau cleifion o'r ysbyty i bractis cyffredinol.

Mae'r ffordd y caiff cleifion eu rhyddhau o'r ysbyty yn hollbwysig i ba mor effeithiol yw eu gofal parhaus yn y gymuned. Mae ansawdd ac amseroldeb gwybodaeth am ryddhau cleifion a ddarperir gan ysbytai yn arbennig o bwysig, a dyma oedd ffocws adolygiad AGIC. 

Ar y cyfan, canfuom fod ansawdd ac amseroldeb gwybodaeth am ryddhau cleifion yn amrywio ledled Cymru, a bod angen rhoi cryn dipyn o sylw i'r maes hwn o'r GIG er mwyn sicrhau y darperir gofal iechyd diogel ac effeithiol. 

Mae'n amlwg bod rhai rhannau o'r GIG yng Nghymru yn gwneud cynnydd ym maes rhyddhau cleifion, ond mae'r cynnydd yn amrywio gormod ledled Cymru. Lle y gwelsom gynnydd yn y defnydd o systemau rhyddhau electronig, roedd ansawdd ac amseroldeb gwybodaeth a gaiff feddygon teulu yn amlwg yn gwella.

Canfuom fod gan bob bwrdd iechyd bolisïau priodol mewn perthynas â rhyddhau cleifion. Fodd bynnag, ymddengys fod diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r prosesau hyn ymhlith staff ar rai wardiau a gall y diffyg eglurder hwn, ynghyd â seilwaith TG gwael a methiant gweithwyr proffesiynol i gymryd cyfrifoldeb am gyfathrebu effeithiol, beryglu cleifion. 

Mae canfyddiadau allweddol ein adolygiad fel a ganlyn:

  • Mae rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn electronig (e-ryddhau) wedi cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y wybodaeth a pha mor amserol y mae meddygon teulu yn cael y wybodaeth honno. 
  • Mae'r broses o ryddhau cleifion fel arfer yn fwy effeithlon os caiff staff fferyllfa ar y ward eu defnyddio
  • Mae angen i weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â gofal cleifion gymryd mwy o gyfrifoldeb am sicrhau eu bod yn darparu gwybodaeth amserol, gywir a pherthnasol i gydweithwyr er mwyn sicrhau gofal parhaus
  • Mae angen mwy o eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hynny sy'n rhan o'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty, ac mae angen cydberthnasau cryfach rhwng meddygon teulu ac ysbytai
  • Yn aml, nid oes digon o ymgysylltu â chleifion na theuluoedd ynghylch y ffordd y caiff cleifion eu rhyddhau na phryd y gwneir hynny

Rydym wedi gwneud 13 o argymhellion i sefydliadau gofal iechyd GIG Cymru a GIG Cymru eu hystyried o ganlyniad i'r canfyddiadau hyn. 

Dywedodd y Prif Weithredwr, Dr Kate Chamberlain:

Mae ein hadolygiad yn cydnabod ymrwymiad staff i wella'r gwaith o reoli'r broses o ryddhau cleifion, gyda rhai enghreifftiau o arfer da yn cael eu datblygu ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'r darlun cyffredinol yn amrywio, gyda dull gweithredu tameidiog yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru a mentrau ac adnoddau lleol yn cael eu datblygu gan nad oes datrysiadau cenedlaethol yn cael eu rhoi ar waith. 

Gall dulliau gwael o ryddhau cleifion o'r ysbyty arwain at ofal parhaus gwael i gleifion yn y gymuned. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae gofyn i bob gweithiwr proffesiynol sy'n ymwneud â gofal claf gymryd cyfrifoldeb am ei ran yn y broses o ryddhau cleifion o ysbytai yn effeithiol.