Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cynnal ei harolygiad cyntaf o ysbytai maes

Heddiw [18 Rhagfyr] mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi canfyddiadau arolygiadau o ddau ysbyty maes, sef y tro cyntaf iddi arolygu lleoliadau o'r fath.

Cafodd y ddau safle capasiti ymchwydd, sef Ysbyty Enfys Carreg yng nghanolfan wyliau Bluestone ger Pont Canaston yn Sir Benfro, ac Ysbyty Enfys Selwyn Samuel yn Llanelli, eu harolygu gan dîm bach ar ddiwedd mis Hydref, cyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eu hagor i gleifion.

Gwnaed hyn er mwyn lleihau'r baich arolygu ar y safleoedd eu hunain pan fyddant yn gwbl weithredol, a rhoi adborth cyflym cyn cyfnod y gaeaf, gan sicrhau diogelwch ein staff ar yr un pryd.

Ystyriodd yr arolygiad y ffordd y mae'r risgiau i iechyd, diogelwch a llesiant cleifion yn cael eu rheoli ar y safleoedd dros dro hyn. Ar y cyfan, gwelwyd bod prosesau priodol ar waith i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro AGIC:

Yn ystod pandemig COVID-19, rydym wedi addasu ein dull o arolygu a rhoi sicrwydd er mwyn cydnabod y pwysau a fu ar leoliadau gofal iechyd a'r baich gweinyddol y gall arolygiad ei roi ar leoliad a arolygir.

Rwy'n falch ein bod wedi gallu arolygu dau ysbyty maes yn ddiogel cyn cyfnod y gaeaf a chyflwyno myfyrdodau cyflym ar yr hyn a welsom i'r rhai sy'n rheoli'r lleoliadau hyn.

Mae'r adroddiad arolygu ar gyfer y ddau ysbyty maes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gael yma: https://agic.org.uk/bwrdd-iechyd-prifysgol-hywel-dda