Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn erlyn gwasanaeth meddyg teulu ar-lein

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi llwyddo i erlyn Online GP Services Ltd a Dr Helen Webberley heddiw am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd ar-lein yn anghyfreithlon lle y mae'n ofynnol iddynt gofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Mae'r erlyniad yn dilyn cyfnod lle y gwnaeth Dr Webberley wrthod rhoi'r gorau i ddarparu gwasanaethau i gleifion. O ganlyniad, cymerodd AGIC ga mhau troseddol yn erbyn Online GP Services Ltd a Dr Webberley am weithredu gwasanaeth heb gael eu cofrestru o dan Adran 11 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Cafwyd Online GP Services Ltd a Dr Helen Webberley yn euog yn Llys Ynadon Merthyr heddiw. Cynhelir dedfrydu ar 3 Rhagfyr 2018.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Dr Kate Chamberlain heddiw:

Rwy'n croesawu penderfyniad y llys heddiw. Mae gwasanaethau gofal iechyd nad ydynt wedi'u cofrestru yn peri risg i ddiogelwch cleifion ac nid ydynt yn derbyn yr un lefel o graffu â gwasanaethau cofrestredig. Rôl AGIC yw sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal da ac rydym yn ymrwymedig i weithredu lle na chaiff safonau eu cyflawni ac yn erbyn y rhai sy'n darparu gwasanaethau yn anghyfreithlon. Rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i wneud hyn yn yr achos hwn.