Rydym yn cynnal arolygon pan fydd angen i ni gasglu eich barn ar bynciau penodol.
Dyma’r arolygon sy’n fyw ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu eich barn ar unrhyw un o’r pynciau isod.
Arolygiadau - Holiadur i Gleifion
Helpwch ni i wella profiadau pobl ifanc gyda gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru
Hoffem ddysgu mwy am eich profiadau ac a ydych wedi defnyddio neu wedi cael profiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) neu unrhyw gymorth arall tebyg.
Ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn, rydym yn awyddus i wneud yn siŵr bod gwasanaethau llesiant ac iechyd meddwl yn darparu gwasanaethau hygyrch ac amserol i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed. Felly, beth am ddod at ein gilydd a dymchwel y rhwystrau er mwyn sicrhau y gall pawb gael y cymorth cywir sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu.
Os hoffech dderbyn cymorth i lenwi holiadur, ffoniwch 0300 062 8163 a bydd aelod o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn eich cynorthwyo.
Os ydych wedi cwblhau copi caled o un o’n holiaduron, a wnewch chi ei anfon yn ôl atom i'r cyfeiriad isod:
Arolgiaeth Gofal Iechyd Cymru
Llywodraeth Cymru
Cymru Adeiladau'r Llywodraeth
Parc Busnes Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ