Canllaw newydd er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel wrth gael meddyginiaethau neu driniaeth ar-lein
Mae sefydliadau iechyd y DU wedi lansio ganllaw newydd er mwyn helpu pobl i sicrhau bod y driniaeth neu'r meddyginiaethau y byddant yn eu cael ar-lein yn ddiogel ac yn briodol ar eu cyfer.
Mae'r canllaw yn cynnwys chwe awgrym pwysig i unrhyw un sy'n chwilio am feddyginiaethau neu driniaeth ar-lein:
- Cadarnhewch fod y gwasanaeth gofal iechyd ar-lein a'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio yno wedi'u cofrestru â rheoleiddwyr y DU.
- Gofynnwch gwestiynau am sut y mae'r gwasanaeth yn gweithio.
- Atebwch gwestiynau am eich iechyd a'ch hanes meddygol mewn ffordd onest.
- Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o'ch opsiynau o ran triniaeth a sut i gymryd unrhyw feddyginiaethau a ragnodir.
- Disgwyliwch iddynt ofyn am gydsyniad i rannu gwybodaeth â'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a fydd yn gysylltiedig â'ch gofal.
- Cadarnhewch pa ôl-ofal y byddwch yn ei gael.
Mae'r canllaw hefyd yn rhoi manylion am ba gwestiynau y dylech eu gofyn wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd ar-lein. Mae'n cynnwys dolenni i wybodaeth ategol, fel sut i gadarnhau a yw gwasanaeth neu weithiwr iechyd proffesiynol ar-lein wedi'i reoleiddio a pha safonau y gallwch eu disgwyl gan weithwyr iechyd proffesiynol sy'n darparu ymgyngoriadau o bell neu sy'n rhagnodi ar-lein.
Datblygwyd y cyngor yn y canllaw gan sefydliadau iechyd blaenllaw gan ddefnyddio gwybodaeth yn deillio o bryderon a godwyd gan gleifion a'r cyhoedd am wasanaethau gofal iechyd ar-lein, yn ogystal ag adborth uniongyrchol gan gleifion a'r cyhoedd.
Noda gwaith ymchwil blaenorol a gomisiynwyd gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol* fod mwy nag un o bob 10 unigolyn eisoes yn defnyddio gwasanaethau fferyllfeydd ar-lein a bod o leiaf un o bob pedwar yn ystyried defnyddio gwasanaethau iechyd ar-lein yn y dyfodol.
Cefnogir y canllaw ar-lein gan ddeg sefydliad iechyd blaenllaw sy'n rheoleiddio neu'n cynrychioli meddyginiaethau, gweithwyr iechyd proffesiynol neu wasanaethau iechyd ledled y DU:
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, y Comisiwn Ansawdd Gofal (yn Lloegr - CQC), Gwella Gofal Iechyd Yr Alban, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon, Fforwm Fferyllaeth Gogledd Iwerddon a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.
*Canfu gwaith ymchwil ar-lein gan YouGov yn 2018 fod 12% o bobl wedi cael meddyginiaeth o fferyllfa ar-lein a dywedodd 25% o bobl eu bod yn debygol o ddefnyddio fferyllfeydd ar-lein yn y dyfodol. Daw'r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, gan YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 2040 o oedolion. Cynhaliwyd gwaith maes ar 8 a 9 Awst 2018. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Pwysolwyd y ffigurau ac maent yn gynrychioliadol o holl oedolion Prydain Fawr (18+ oed).