Neidio i'r prif gynnwy

Canolfannau Brechu Torfol COVID-19

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn bwriadu ymgymryd â gwaith sicrwydd er mwyn ystyried trefniadau byrddau iechyd ar gyfer rhoi strategaeth frechu COVID-19 ar waith.

Fel rhan o'n gwaith cynllunio seiliedig ar risg parhaus ar gyfer 2020-21, rydym wedi cynnwys gwaith sicrwydd ac arolygiadau o ganolfannau brechu torfol COVID-19.  Bydd ein gwaith yn ystyried sut y caiff iechyd, diogelwch a llesiant cleifion eu rheoli yn y lleoliadau dros dro newydd hyn, sy'n ymdrin â niferoedd uchel o bobl ers iddynt ddod yn weithredol.  

Bydd ein dull o gyflawni'r gwaith sicrwydd hwn yn cynnwys gweithgarwch ar draws pedwar bwrdd iechyd, gan gynnwys arolygiadau â phwyslais penodol yn nifer o'r canolfannau brechu torfol y mis Mawrth 2021. I ddechrau, byddwn yn ystyried trefniadau canolfannau brechu'r byrddau iechyd canlynol: Betsi Cadwaladr, Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda.

Mae ein dull o gyflawni'r gwaith hwn wedi'i gynllunio i ystyried y pwysau presennol sydd ar ganolfannau brechu torfol a'r staff i roi'r rhaglen bwysig hon ar waith, yn ogystal â diogelwch y cyhoedd a'n staff ein hunain.

Rydym am gael barn pobl sydd wedi cael eu brechu yn y ganolfan frechu dorfol. Os ydych wedi cael eich brechu, llenwch ein harolwg cleifion.