Neidio i'r prif gynnwy

Chwythu'r Chwiban – Codi Pryderon am Ofal Iechyd yng Nghymru

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod os ydych am roi gwybod am bryderon yn y gwaith

Beth yw chwythu'r chwiban?

 

Chwythu’r chwiban yw’r term a ddefnyddir pan fydd rhywun sy’n gweithio mewn sefydliad neu drosto yn dymuno codi pryderon am arferion gwael, camymddwyn, anghyfreithlondeb neu risg yn y sefydliad. Gall y pryderon hyn effeithio ar gleifion, y cyhoedd, staff eraill, neu'r sefydliad ei hun.

Mae chwythu'r chwiban yn berthnasol i fynegi pryder o fewn y sefydliad yn ogystal ag yn allanol, megis i reoleiddiwr fel AGIC. 

 

Os ydych yn weithiwr gofal iechyd a'ch bod am godi pryder

O bryd i'w gilydd, efallai y bydd gennych bryderon am rywbeth sy'n digwydd lle rydych yn gweithio a allai effeithio ar gleifion, eich cydweithwyr, neu'r sefydliad cyfan. Nid yw gwneud rhywbeth am y pryderon hyn bob amser yn hawdd.

Mae gan AGIC rôl arbennig ar gyfer pobl sy'n ystyried chwythu'r chwiban ynglŷn â phryderon sydd ganddynt am gamymddwyn ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae AGIC yn “gorff rhagnodedig” o dan y deddfau chwythu'r chwiban, felly gall gweithwyr, cyn-weithwyr, staff asiantaeth dros dro neu gontractwyr sy'n dod â phryderon i ni am weithgareddau eu cyflogwr gael rhywfaint o amddiffyniad ar gyfer eu hawliau cyflogaeth. 

Rhaid i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddilyn ei god ymddygiad proffesiynol a byddem bob amser yn argymell eich bod yn mynegi eich pryder yn eich sefydliad yn gyntaf. Fodd bynnag, os teimlwch na allwch wneud hyn, neu os ydych eisoes wedi dilyn y llwybr hwn, byddwn yn gwrando ar eich pryder ac yn egluro wrthych sut y gallwn helpu. Mae'n bosibl y bydd angen i ni drosglwyddo'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni ymlaen i sefydliad neu gorff rheoleiddio arall os ydyw'n fwy priodol iddyn nhw ymchwilio i’r pryder.

 

Os byddwch yn datgelu gwybodaeth i ni, caiff eich datgeliad ei “ddiogelu” os ydych wedi ei wneud yn onest, os ydych yn credu ei fod yn sylweddol wir, ac os oes gennych gred resymol ei fod yn ymwneud â darparu gofal iechyd yng Nghymru.

A allaf gyflwyno gwybodaeth yn ddienw?

Fel arfer, y ffordd orau o leisio pryder yw gwneud hynny mewn modd agored. Mae didwylledd yn ei gwneud hi'n haws i ni ddeall y problemau a chael rhagor o wybodaeth.

Wrth gwrs, rydym yn sylweddoli y gallai fod amgylchiadau lle yr hoffech i ni gadw eich enw'n gyfrinachol. Ni fyddwn yn datgelu pwy ydych heb eich caniatâd, oni bai fod cyfyngiadau neu rwymedigaethau cyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni wneud fel arall (er enghraifft, pan fydd eich tystiolaeth yn awgrymu bod plentyn neu oedolion sy'n agored i niwed mewn perygl neu fod trosedd difrifol wedi'i chyflawni) neu os yw llys yn mynnu ein bod yn gwneud hynny. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd yn rhaid i ni wneud hyn ac os bydd hyn yn rhoi eich enw i gorff arall.

Cofiwch, er ein bod ni'n amddiffyn pwy ydych, gallai pobl eraill ddyfalu pwy sydd wedi cysylltu â ni o ganlyniad i natur yr wybodaeth yr ydych wedi'i darparu.

Gallwch leisio pryder yn ddienw os nad ydych eisiau rhoi eich enw o gwbl. Os bydd hyn yn digwydd, ni fyddwn yn gallu cysylltu â chi i drafod eich pryder, i gael rhagor o wybodaeth, neu i'ch hysbysu am unrhyw gamau y byddwn yn eu cymryd.

Beth bydd AGIC yn ei wneud gyda'r wybodaeth y byddaf yn ei rhoi?

Bydd ein tîm pryderon a hyfforddwyd yn arbennig yn ymdrin â phryderon chwythu'r chwiban. Byddwn yn gwrando ar eich pryder ac yn egluro sut gallwn ni helpu.

Byddwn yn dewis un o'r dulliau sydd ar gael i ni i fynd ar drywydd yr wybodaeth y byddwch yn ei datgelu. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ysgrifennu at y sefydliad gofal iechyd i ofyn am ymateb ffurfiol i'r materion a godwyd
  • Cofnodi eich pryderon fel rhan o'r darlun cyffredinol o wybodaeth sydd gennym am y lle rydych chi'n gweithio, fel y gellir eu hystyried y tro nesaf y byddwn yn ymweld â'r lle 
  • Hysbysu sefydliad arall neu gorff rheoleiddio am yr wybodaeth y gwnaethoch chi ei rhoi i ni os yw'n fwy priodol iddyn nhw ymchwilio i'r pryder 
  • Cynnal arolygiad neu adroddiadau. 
  • Dilyn gweithdrefnau diogelu os yw'r wybodaeth yn ymwneud â niwed neu gamdriniaeth bosibl plentyn neu oedolyn sy'n agored i niwed.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud ac unrhyw adborth ynghylch y camau y byddwn yn eu cymryd (heblaw lle na wyddom pwy ydych am eich bod wedi dod atom yn ddienw).

Sut rydw i'n cysylltu ag AGIC?

Gallwch gysylltu ag AGIC drwy ffonio 0300 062 8163 neu drwy anfon e-bost at agic@llyw.cymru.

Neu gallwch ysgrifennu atom yn: 

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 

Parc Busnes Rhyd-y-car 

Merthyr Tudful 

CF48 1UZ