Codi Llais – Datganiad ar y cyd gan AGC ac AGIC
Mae hwn yn ddatganiad ar y cyd i'w rannu â darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol oddi wrth Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru ac Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Rydym ynghanol argyfwng iechyd na welwyd ei debyg o'r blaen a hoffem ddiolch i staff iechyd a gofal ledled Cymru am eu hymroddiad, eu gofal a'u gwaith caled wrth ymateb i'r heriau lu sy'n eu hwynebu nhw a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd a llawn straen i bawb, a bydd gan lawer ohonoch bryderon ynglŷn â'r risgiau cynyddol o niwed anfwriadol i chi, eich teuluoedd, eich cydweithwyr a'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau.
O ystyried faint roedd angen newid gwasanaethau er mwyn ymateb i'r pandemig, a pha mor gyflym yr oedd angen gwneud hynny, erys diogelwch, yn fwy nag erioed, yn flaenoriaeth i'r system gyfan. Bydd angen i bawb sydd â rôl yn y gwaith o roi gofal fod yn fwy gwyliadwrus er mwyn i ni allu lleihau'r risg o niwed y gellir ei osgoi i bobl. Gallwch wneud hyn drwy ddilyn systemau diogelwch, canllawiau ac argymhellion sy'n sicrhau y caiff gofal cywir ei roi, yn ôl y bwriad, bob tro, a thrwy barhau i roi gwybod am achosion sy'n ymwneud â diogelwch a phryderon yn lleol, gan arfer eich barn broffesiynol a chlinigol. Mae angen i ni barhau i ddysgu o'r hyn sy'n gweithio'n dda yn ogystal â'r hyn nad yw'n gweithio.
Gall pob arweinydd gwasanaeth iechyd a gofal gefnogi hyn drwy annog diwylliant cefnogol lle y gall pobl godi llais am risgiau a chanlyniadau niweidiol, heb ofn bai na goblygiadau. Yn bwysig ddigon, rydym am annog gweithwyr i godi unrhyw beth sy'n eu rhwystro rhag rhoi gofal da er mwyn atal y niwed posibl hwnnw.
Mae llawer o ffyrdd o godi llais. Dylech barhau i roi gwybod am unrhyw beth sy'n eich pryderu; gellir gwneud hyn drwy brosesau rheoli risg lleol, drwy drafodaeth â'ch rheolwr llinell, drwy awgrymu gwelliant, neu drwy dynnu mater at sylw rheoleiddiwr. Mae codi llais yn elfen hanfodol o ddiwylliant diogel a dylai fod yn rhan o 'fusnes fel arfer' i bawb sy'n gweithio ym maes gofal, ni waeth beth fo'u rôl.