Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19: Rhoi'r gorau i gyhoeddi adroddiadau arolygu ar leoliadau gofal iechyd y GIG dros dro

Rydym wedi penderfynu rhoi'r gorau ar unwaith i lunio a chyhoeddi adroddiadau ar arolygiadau yn lleoliadau gofal iechyd y GIG a gynhaliwyd cyn i'r penderfyniad i roi'r gorau i'n gwaith arolygu gael ei gyhoeddi.

Ar 17 Mawrth, gwnaethom gyhoeddi y byddem yn rhoi'r gorau i'n gwaith arolygu arferol nes y nodir yn wahanol. Gwnaethom hyn yn rhannol er mwyn lleihau'r baich y gallai unrhyw weithgareddau a gynhelir gennym ei achosi, ar adeg pan fo gwasanaethau gofal iechyd o dan bwysau sylweddol oherwydd COVID-19. Er mwyn gwneud mwy i leihau'r pwysau ar wasanaethau'r GIG, rydym wedi penderfynu rhoi'r gorau ar unwaith i lunio a chyhoeddi adroddiadau ar arolygiadau yn lleoliadau gofal iechyd y GIG a gynhaliwyd cyn i'r penderfyniad i roi'r gorau i'n gwaith arolygu gael ei gyhoeddi.

Ein proses arferol yw cyhoeddi adroddiadau arolygu dri mis ar ôl i'r arolygiad gael ei gynnal. Cynhelir trafodaethau a phroses gwirio ffeithiau rhwng AGIC a'r lleoliad a arolygwyd yn ystod y cyfnod hwn o dri mis. Rydym yn cydnabod bod y broses hon yn gofyn am amser staff o fewn y GIG ac, oherwydd y pwysau sylweddol y mae'r GIG yn ei wynebu, bydd rhoi'r gorau i lunio ein hadroddiadau yn helpu i ryddhau amser staff yn y gwasanaeth. Gwnaed ein penderfyniad yn unol â fframwaith Llywodraeth Cymru o gamau gweithredu ar gyfer COVID-19 sy'n cynnwys lleihau'r gofynion rheoliadol ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal.

Ar gyfer lleoliadau gofal iechyd annibynnol, gan gynnwys practisau deintyddol sydd wedi'u cofrestru i ddarparu gwasanaeth deintyddol preifat, byddwn yn ystyried pob adroddiad arolygu fesul achos mewn ymgynghoriad â'r lleoliad. Ein nod yw parhau i rannu adroddiadau â'r cyhoedd mewn ffordd amserol gan ystyried ar yr un pryd y pwysau cynyddol y bydd rhai lleoliadau yn ei wynebu ar yr adeg hon.

Fel y nodwyd yn flaenorol, er ein bod wedi rhoi'r gorau i'n gweithgarwch arolygu arferol dros dro, efallai y bydd angen i ni ddefnyddio ein pwerau arolygu o hyd mewn nifer bach o achosion, os bydd tystiolaeth amlwg i wneud hynny. O dan yr amgylchiadau hyn, byddwcn yn ceisio llunio adroddiad ar unrhyw arolygiad a gynhelir gennym yn unol â'n prosesau arferol.

Byddwn yn parhau i ystyried cyngor swyddogol ar fesurau i leihau nifer yr achosion o drosglwyddo COVID-19, ac yn ailasesu ein penderfyniadau os bydd y sefyllfa yn newid.