Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19: Ymateb AGIC

Mae Alun Jones, ein Dirprwy Brif Weithredwr, wedi ysgrifennu at ein holl leoliadau cofrestredig yn amlinellu sut rydym wedi ymateb i bandemig Cornonafeirws (COVID-19). Darllenwch ei lythyr isod.

Annwyl Ddarparwr,

Ysgrifennaf atoch i roi gwybod i chi am rai o'r newidiadau mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru'n eu gwneud i'r ffordd rydym yn gweithio, a'r rhai rydym wedi'u gwneud eisoes, ac i ateb rhai cwestiynau a all fod gennych fel gwasanaethau gofal iechyd. Mae'r newidiadau hyn mewn ymateb i'r achosion o COVID-19.

Mae'r newidiadau yn effeithio ar y ffordd rydym yn gwneud ein gwaith, yn cyflawni ein swyddogaethau statudol ac yn cefnogi sefydliadau gofal iechyd i gadw eu staff a'r cyhoedd yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. Diben y newidiadau rydym yn eu gwneud a'r camau rydym yn eu cymryd yw diogelu iechyd a llesiant ein staff a chyflawni ein dyletswyddau i fonitro, rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn y ffordd orau bosibl.

Amlinellir y camau rydym wedi'u cymryd hyd yn hyn isod:

  • Yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, rydym yn oedi rhai gweithgareddau gweithredol allanol ac yn canolbwyntio ar gynnal dyletswyddau statudol a rheoleiddiol hanfodol yn unig. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad ydym yn rhoi unrhyw bwysau ychwanegol ar staff a gwasanaethau gofal iechyd.
  • Rydym yn oedi ein holl waith a all effeithio ar wasanaethau rheng flaen a'u staff hyd y gellir gweld. Mae hyn yn cynnwys oedi ein holl arolygiadau arferol o wasanaethau'r GIG a gwasanaethau annibynnol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i fonitro unrhyw bryderon sylweddol ynghylch diogelwch ac ansawdd gofal ac yn cymryd camau dilynol yn hyn o beth.

Yr hyn y byddwn yn parhau i'w gwneud

  • Byddwn yn parhau i fonitro gwybodaeth sy'n ymwneud â gofal iechyd yng Nghymru ac yn defnyddio hyn i nodi patrymau a phryderon. Byddwn yn parhau i gynnal arolygiadau brys a chymryd camau gweithredu os teimlwn fod risg sylweddol i ddefnyddwyr gwasanaethau gofal iechyd.
  • Byddwn yn parhau i fodloni ac arfer ein dyletswyddau statudol hanfodol mewn perthynas â rheoleiddio'r Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cyfarpar Meddygol). Fodd bynnag, byddwn yn atal gweithgarwch arolygu nes y nodir yn wahanol. Ceir ymateb llawn ar y cyd gan arolygiaethau ar ein gwefan.
  • Byddwn yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth meddyg a benodwyd i roi ail farn, ond caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu o bell er mwyn sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan drwy gadw pellter cymdeithasol er mwyn diogelu iechyd a llesiant ein staff a phobl eraill.
  • Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid i sicrhau y gallwn fonitro ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys cymryd camau gweithredu pan fo angen er mwyn diogelu'r cyhoedd.

Defnyddio staff clinigol ac anghlinigol

  • Rydym eisoes wedi rhyddhau un uwch-aelod o staff a oedd yn weithiwr proffesiynol clinigol cofrestredig ac ar secondiad gyda ni o'r GIG er mwyn ei alluogi i ddychwelyd i'w swydd barhaol.
  • Rydym hefyd yn monitro'r sefyllfa yn y GIG ac mewn lleoliadau gofal iechyd eraill yn gyson a byddwn yn rhyddhau gweithwyr proffesiynol clinigol sydd wedi'u cyflogi'n barhaol gennym i gefnogi gwasanaethau rheng flaen lle y bo angen.
  • Rydym yn gweithio'n galed i gefnogi ein cydweithwyr yn adrannau Llywodraeth Cymru sydd o dan bwysau ychwanegol yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Hyd yn hyn, mae nifer o’n haelodau o staff parhaol, llawn amser yn gweithio'n uniongyrchol ar ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19.

Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod anodd a heriol i lawer o wasanaethau gofal iechyd ac rydym yn gwneud ein gorau i'ch cefnogi yn ystod yr amser hwn a pheidio ag ychwanegu at eich baich. Rydym wedi cael llawer o ymholiadau a byddwn yn ceisio ateb rhai o'r rhain isod:

Ydy AGIC ar agor?

Rydym ar agor ar gyfer busnes o hyd ond mae ein staff i gyd yn gweithio gartref yn unol ag argymhellion y llywodraeth ac er mwyn diogelu eu hiechyd a'u llesiant eu hunain a phobl eraill. Mae hyn yn golygu bod ychydig o newidiadau i'r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau allanol.

  • Gan nad yw ein staff yn y swyddfa ar hyn o bryd, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o oedi wrth ddarllen post. Mae ffyrdd eraill o gysylltu â ni sy'n cynnwys:
  • Ymweld â'n gwefan
  • Os byddai'n well gennych, gallwch hefyd ein ffonio ar 0300 062 8163.
  • Gallwch anfon e-bost i HIW@gov.wales
  • Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith drwy ein dilyn ar Facebook a Twitter.

A fydd ffioedd yn cael eu hoedi neu eu hepgor yn sgil COVID-19 ac a oes unrhyw gymorth ariannol ar gael ar gyfer darparwyr annibynnol?

Bydd ffioedd cofrestru blynyddol sy'n ddyledus o 1 Ebrill 2020 yn cael eu gohirio tan yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Efallai y byddwch yn derbyn anfoneb, ond ni fyddwn yn casglu taliad ar hyn o bryd. Byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol â lleoliadau sydd ag unrhyw ffioedd sy'n weddill cyn y dyddiad hwnna.

Ceir manylion am gymorth ariannol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni allwn gynnig cyngor ar gymorth ariannol sydd ar gael i chi.

A yw'n ddiogel i'ch gwasanaeth aros ar agor?

Ni all AGIC roi cyngor i chi ar y mater hwn. Byddem yn eich cynghori i ddefnyddio gwefannau swyddogol iechyd cyhoeddus a'r llywodraeth a'u hadrannau ar gyngor ynghylch COVID-19. Mae'r rhain yn amlinellu'r union fusnesau a gwasanaethau a all aros ar agor a darparu gwasanaethau yn ystod y pandemig. Y brif neges gan y Llywodraeth yw y dylai pobl aros gartref oni fydd yn gwbl angenrheidiol; dylech wneud popeth o fewn eich gallu i annog pobl i ddilyn y cyngor hwn.

Rydym yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd unrhyw ganllawiau a gwybodaeth i chi fel darparwyr yn cael eu rhannu. Byddwn yn helpu i rannu'r manylion hyn os bydd angen.

Ceir dolenni isod i'r canllawiau diweddaraf sy'n cynnwys cyngor ar ba wasanaethau ddylai aros ar agor, amseroedd ymweld ar gyfer y darparwyr hynny sydd â gwelyau dros nos a chyngor i fusnesau y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt yn ariannol:

https://llyw.cymru/gweithwyr-iechyd-proffesiynol-coronafeirws

https://llyw.cymru/cyngor-iechyd-y-coronafeirws

https://llyw.cymru/Busnesau%20a%20chyflogwyr%3A%20coronafeirws

Ewch i'r tudalennau hyn yn rheolaidd er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ganllawiau a chyngor newydd a gaiff eu cyhoeddi.

A fydd gwasanaethau'n cael eu harolygu yn ystod y pandemig?

Mae ein rhaglen arolygu arferol wedi cael ei hoedi hyd y gellir gweld fel y disgrifiwyd uchod. Fodd bynnag, os byddwn yn cael pryderon sylweddol sy'n effeithio ar ddiogelwch, gallwn gynnal ymweliadau brys os bydd yn gwbl angenrheidiol.

Oes angen i wasanaethau roi gwybod i AGIC eu bod yn cau dros dro a phan fyddant yn ailagor?

Rydym am i chi roi gwybod ni os byddwch yn cau gwasanaethau dros dro neu'n ailagor y gwasanaethau hyn. Nid oes gofyniad rheoliadol i chi wneud hyn, ond rydym yn ceisio cadw cofnod o'r wybodaeth hon. Anfonwch e-bost i hiw@gov.wales gyda'r wybodaeth hon os yw'n bosibl.

Sut dylai gwasanaethau gofrestru yn ystod y pandemig/yr achosion o coronafeirws?

Mynediad cyfyngedig sydd gennym at geisiadau neu ddogfennaeth ategol a gaiff eu hanfon fel copi caled drwy'r post. Byddem yn eich annog i gyflwyno eich ceisiadau'n electronig neu fel arall bydd oedi cyn y bydd y tîm cofrestru yn cael eich gwybodaeth. Dylech hefyd gynnwys 'COVID-19' fel testun yr e-bost os ydych yn bwriadu cofrestru gwasanaeth sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r ymateb i COVID-19 Yna byddwn yn cysylltu â chi ac yn rhoi cyngor ar y camau nesaf. Byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau penodol i ddarparwyr sy'n cofrestru'r mathau hyn o wasanaethau yn ystod y dyddiau nesaf. Dyma rai atebion i ymholiadau cyffredinol rydym wedi'u cael am gofrestru.

Cyfweliadau â rheolwyr cofrestredig

Byddwn yn cynnal y cyfweliadau hyn yn rhithiol drwy ddefnyddio Skype hyd y gellir gweld. Bydd gwiriadau datgelu a gwahardd a hunaniaeth hefyd yn cael eu cynnal yn rhithiol drwy ddefnyddio Skype a sganiadau.

Ymweliadau cyn cofrestru

Bydd yr holl wiriadau dogfennau yn cael eu gwneud yn rhithiol cyn yr ymweliad. Efallai y gofynnir i chi wneud fideo ohonoch yn cerdded drwy'r lleoliad a darparu lluniau o'r amgylchedd. Yna cynhelir ymweliadau cyn gynted ag y bydd y sefyllfa wedi dod i ben.

Tystysgrifau cofrestru

Caiff y rhain eu darparu fel copi caled a bydd angen llofnodi er mwyn eu derbyn o hyd.

Byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa a'n hymateb i hyn yn ystod yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod. Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr ein bod yn targedu ac yn canolbwyntio ein hadnoddau ar gefnogi'r system gofal iechyd, Llywodraeth Cymru a'r cyhoedd yn ystod y cyfnod digynsail a heriol hwn.

Yn gywir,

Alun Jones

Dirprwy Brif Weithredwr

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru