Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno egwyddorion ar gyfer arferion da i ddiogelu cleifion ar-lein

Heddiw (8 Tachwedd), mae sefydliadau gofal iechyd gan gynnwys rheoleiddwyr, colegau brenhinol a chyfadrannau yn cyflwyno cyfres o egwyddorion er mwyn helpu i sicrhau diogelwch a lles cleifion wrth ddefnyddio meddyginiaeth a allai fod yn niweidiol a gaiff ei rhagnodi iddynt ar-lein neu dros y ffôn.

Mae'r Egwyddorion lefel uchel ar gyfer arferion da o ran ymgynghoriadau a rhagnodi o bell, y cytunwyd arnynt ar y cyd, yn nodi'r arferion da y disgwylir gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu dilyn wrth ragnodi meddyginiaeth ar-lein.

Mae'r deg egwyddor, a ategir gan safonau a chanllawiau presennol, yn cynnwys y disgwyliadau canlynol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol:

  • Deall sut i adnabod cleifion sy'n agored i niwed a chymryd camau priodol i'w diogelu
  • Cynnal asesiadau clinigol a gwirio cofnodion meddygol i sicrhau bod meddyginiaeth yn ddiogel ac yn briodol
  • Codi pryderon pan nad oes mesurau digonol ar waith i ddiogelu cleifion.

Mae'r egwyddorion hyn yn gymwys i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â darparu ymgyngoriadau a meddyginiaeth i gleifion o bell, gan gynnwys meddygon, nyrsys, fferyllwyr, deintyddion ac optegwyr.

Daw'r cyhoeddiad hwn ar ôl i ddatganiad ar y cyd gael ei ryddhau ym mis Medi gan reoleiddwyr gofal iechyd, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i weithio gyda'i gilydd a sefydliadau partner i ddatblygu egwyddorion cyffredin ar gyfer ymgyngoriadau a rhagnodi o bell.

Ysgrifennwyd a chytunwyd ar yr egwyddorion ar y cyd gan y canlynol:

Academi Colegau Meddygol Brenhinol, Care Quality Commission, y Gyfadran Meddygaeth Poen, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Optegol Cyffredinol, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, Healthcare Improvement Scotland, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a'r Regulation and Quality Improvement Authority.