Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi Adolygiad ar y cyd gan Arolygiaethau o Drefniadau Amddiffyn Plant

Ym mis Rhagfyr 2019, cymerwyd rhan mewn Adolygiad ar y cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant yng Nghasnewydd. Yr arolygiad ar y cyd oedd yr arolygiad peilot cyntaf yng Nghymru i gynnwys pum arolygiaeth yn adolygu trefniadau amddiffyn plant.

Buom yn gweithio ochr yn ochr ag Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP) ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub (HMICFRS), yn ogystal ag Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Arolygiaeth Gofal Cymru oedd yr arolygiaeth arweiniol a gallwch ddarllen llythyr canlyniadau arolygiad ar eu gwefan, ochr yn ochr â fersiwn graffig o ganfyddiadau'r arolygiad.