Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi adroddiad cenedlaethol o ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru

Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) Cymru, rydym wedi cyhoeddi’r adroddiad blynyddol o ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru

Datblygwyd DoLS er mwyn sicrhau bod hawliau dynol pobl yn cael eu diogelu a'u cynnal, a bod y gofal a gânt er eu budd pennaf ac yn cael ei ddarparu yn y ffordd leiaf gyfyngol.

Mae'r Trefniadau Diogelu yn berthnasol i bobl dros 18 oed na allant gydsynio i driniaeth neu ofal mewn ysbyty neu gartref gofal. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer amddifadu er mwyn atal achosion o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol yma.