Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd Adolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau Anabledd Dysgu

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiadau anabledd dysgu yn 2015-16.

Yr hyn a wnaethom

Yn 2015-16, gwnaethom gynnal adolygiad thematig o wasanaethau iechyd y GIG ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.

Gwnaethom gwblhau arolygiadau lle rhoddwyd rhybudd mewn saith tîm iechyd anableddau dysgu cymunedol (un yn ardal pob bwrdd iechyd) ac arolygiadau dirybudd mewn 25 gwasanaeth preswyl arbenigol y GIG ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Yr hyn a ganfuom

  • Roedd pobl ag anableddau dysgu'n cael eu trin ag urddas a pharch gan y staff a oedd yn gweithio gyda nhw.
  • Roedd mynediad at wasanaethau gofal iechyd cyffredinol yn dda ac roedd cleifion yn cael eu cefnogi i reoli eu cyflyrau iechyd.
  • Roedd pasbortau cyfathrebu iechyd (sy'n helpu staff ysbyty i wybod am anghenion a hoffterau unigol person) ar gael ar gyfer llawer o bobl y mae'r gwasanaethau anabledd dysgu yn ymwybodol ohonynt.
  • Dywedodd staff wrthym am y diffyg dealltwriaeth o anableddau dysgu ymhlith staff meddygol cyffredinol – gofynnwyd i rieni a gofalwyr lofnodi ffurflenni caniatâd ar gyfer triniaeth ysbyty heb wirio a oedd gan y person y gallu i gydsynio i dderbyn triniaeth eu hunain.
  • Mae angen sefydlu system ar gyfer gwasanaethau preswyl i geisio adborth cleifion.
  • Roedd timau iechyd anableddau dysgu cymunedol yn gwneud ymdrech i sicrhau bod pobl yn cael eu cynnwys yn y penderfyniadau ynglŷn â'u gofal.
  • Roedd y timau iechyd anableddau dysgu yn wynebu heriau sylweddol yn ymwneud â phroses gyllido Gofal Iechyd Parhaus, a allai arwain at oediadau i bobl a'u gofalwyr. 

Gallwch weld pa argymhellion yr ydym wedi'u gwneud trwy ddarllen yr adroddiad llawn, sydd ar gael isod.