Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) gynnal adolygiad annibynnol o sut yr aeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (BIPABM) ati i ymdrin â chyflogaeth Kris Wade, a'r honiadau a wnaethpwyd yn ei erbyn.
Yn ystod 2016, dyfarnwyd Kris Wade (KW) yn euog o ladd Christine James. Roedd KW wedi'i gyflogi gan BIPABM fel cynorthwyydd gofal ar adeg y drosedd, ond roedd eisoes wedi'i atal rhag gweithio wrth aros am ymchwiliad i dri honiad ar wahân o ymosodiad rhywiol a wnaethpwyd yn ei erbyn gan gleifion unigol. Roedd yn gweithio mewn lleoliad anableddau dysgu a oedd yn cael ei redeg gan BIPABM.
Cynhaliodd BIPABM adolygiad mewnol i edrych ar y ffordd y cafodd cyflogaeth KW ei rheoli a sut yr ymdriniwyd â'r tri honiad ar wahân a wnaethpwyd yn ei erbyn. Roedd hwn yn adolygiad bwrdd gwaith mewnol a gynhaliwyd gan uwch-unigolion o fewn BIPABM a oedd yn annibynnol o'r Gyfarwyddiaeth Anabledd Dysgu.
Canfu adolygiad mewnol BIPABM nifer o faterion arwyddocaol o bryder a gwendidau gweithdrefnol a oedd yn ymwneud â'r llywodraethu, recriwtio, diogelu oedolion, adrodd am ddigwyddiadau a'r diwylliant o fewn BIPABM. Amlygodd nifer o feysydd lle roedd angen dysgu a gwneud gwelliannau. Mae cynllun gwella yn amlinellu'r camau sydd wedi'u cymryd hyd yn hyn wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr â'r adroddiad. Daeth adolygiad BIPABM i'r casgliad na ellid fod wedi darogan nac atal ymarweddiad ac ymddygiad KW yn y dyfodol y tu allan i'w gyflogaeth.
Er mwyn bod yn fodlon bod camau priodol wedi'u nodi gan BIPABM a bod ei gynllun gweithredu ar gyfer gwelliant yn ddigon cadarn, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i AGIC gynnal asesiad annibynnol i bennu a oedd y dysgu a'r camau gweithredu a ddeilliodd o'r adolygiad hwnnw'n briodol.
Wrth ofyn am yr adolygiad hwn, awgrymodd Llywodraeth Cymru nifer o baramedrau eang. Mae AGIC wedi cymryd ei hamser i ystyried y safbwyntiau hyn a safbwyntiau pobl eraill er mwyn datblygu ei chylch gorchwyl ei hun ar gyfer yr adolygiad annibynnol. Roedd hyn yn cynnwys rhoi ystyriaeth gychwynnol i'r dystiolaeth ddogfennol yr oedd adolygiad BIPABM yn seiliedig arni, a gwahodd trafodaethau â phartïon eraill â buddiannau.
Bydd ein dull adolygu'n cynnwys archwiliad a dadansoddiad trwyadl o'r dystiolaeth ddogfennol. Byddwn hefyd yn casglu tystiolaeth o gyfweliadau. Byddwn yn trafod ac yn ymgysylltu ag unigolion allweddol eraill trwy gydol y broses, ac yn cael mewnbwn proffesiynol annibynnol gan adolygwyr cymheiriaid.
Disgwylir i'r adolygiad hwn gael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2018. Bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y broses adolygu.
Ffynonellau gwybodaeth i lywio adolygiad AGIC
Er mwyn sicrhau adolygiad cadarn ac annibynnol, bydd AGIC yn ystyried amrediad eang o wybodaeth a thystiolaeth. Yn ystod yr adolygiad, byddwn yn gwneud y canlynol:
- Siarad â rhanddeiliaid allweddol a phartïon eraill â buddiannau
- Cyfweld ag unigolion perthnasol
- Archwilio a dadansoddi dogfennau sydd gan BIPABM, a rhanddeiliaid allweddol eraill, sy'n berthnasol i'r adolygiad
- Cael mewnbwn gan adolygwyr cymheiriaid perthnasol, annibynnol
- Creu adroddiad cyhoeddus ar ddiwedd yr adolygiad sy'n nodi canfyddiadau AGIC
Yr hyn y bydd yr adolygiad yn ei ystyried
Bydd yr adolygiad annibynnol yn pennu'r pethau canlynol:
- A oedd adolygiad mewnol BIPABM yn ddigon trwyadl
- A oedd casgliadau BIPABM yn briodol ar sail y dystiolaeth a ystyriwyd
- A yw'r camau gweithredu y mae BIPABM wedi'u cymryd yn sgil y casgliadau hynny yn ddigonol i sicrhau diogelwch cleifion
- A ddylid dod i wahanol gasgliadau neu gasgliadau ychwanegol ar sail y dystiolaeth ychwanegol a gaiff ei hystyried yn ystod yr adolygiad hwn
- A oes unrhyw ddysgu ychwanegol, ehangach i'r GIG yng Nghymru
Mae'r meysydd a'r prosesau o fewn BIPABM y bydd AGIC yn eu hystyried o ran yr achos hwn yn cynnwys y canlynol:
- Recriwtio a chyflogi staff
- Adrodd am ddigwyddiadau
- Diogelu oedolion
- Llywodraethu a diwylliant.
Yr hyn na fydd yr adolygiad yn ei ystyried
Ni fydd penderfyniadau na chamau gweithredu'r Heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ffurfio rhan o'r adolygiad hwn. Nid yw hyn o fewn cylch gorchwyl AGIC, oherwydd dim ond materion mewn cyswllt â darparu gwasanaethau gofal iechyd y gall AGIC ymchwilio iddynt. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio cydweithrediad Heddlu De Cymru ac unrhyw wybodaeth sydd ganddo a allai ein helpu ni wrth ystyried camau gweithredu BIPABM.