Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar y cyd ar gynllunio gofal ymlaen llaw yng Nghymru

Mae cynllunio gofal ymlaen llaw wedi'i bersonoli bob amser wedi bod yn ffactor hanfodol wrth sicrhau bod pobl yn cael gofal ag urddas o safon uchel; yn enwedig i bobl sydd â chyflyrau difrifol a chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, a phobl hŷn a all fod yn fregus. Mae hyn yn bwysicach nag erioed yn ystod pandemig COVID-19 sy'n effeithio arnom i gyd ar hyn o bryd, ac a fydd yn parhau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod.

Rydym yn cefnogi'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau cyfredol i gefnogi ymarferwyr a staff yn llawn wrth gynnal y sgyrsiau hyn. Mae'r canllawiau yn helpu i sicrhau y caiff dymuniadau a budd pennaf y bobl eu hystyried mewn ffordd sydd wedi'i phersonoli drwy drafodaethau cynllunio gofal ymlaen llaw. Mae'r canllawiau yn glir y dylid ond gwneud penderfyniadau ar sail unigol ac na ddylid eu gwneud ar gyfer grwpiau o bobl.

Mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn ei gwneud yn ofynnol i'r penderfyniadau hyn gael eu cymryd ar y cyd â'r person dan sylw. Mae'n nodi sut y dylid cynnal trafodaethau os oes gan berson alluedd a beth i’w gwneud brosesaulle nad oes gan berson alluedd. 

Fel rhan o brosesau cynllunio gofal ymlaen llaw, efallai y caiff trafodaeth a ffurflen Na Cheisier Dadebru Cardio-Anadlol ei ystyried hefyd. Fel bob amser, mae'n rhaid i brosesau cyfathrebu tosturiol wedi'u personoli fod yn rhan hanfodol o'r broses hon. Dylid gwneud penderfyniadau ar sail unigol bob amser ac er budd pennaf y person.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro AGIC, a Gillian Baranski, Prif Arolygydd AGC:

Fel arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, rydym bob amser wedi chwarae rôl weithredol wrth arolygu a hyrwyddo gofal effeithol a thosturiol wedi'i bersonoli. Bydd y rôl hon yn parhau yn ystod y cyfnod heriol hwn. Yn ystod y pandemig hwn, mae'n hanfodol bod pob aelod o staff sy'n ymwneud â chynllunio gofal ymlaen llaw yn dilyn y canllawiau diweddaraf ac yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael iddynt i gael y trafodaethau hyn.

Mae nifer o ddogfennau canllaw ar gael i gefnogi staff ac ymarferwyr sy'n cael y sgyrsiau hyn pan fyddant yn briodol. Rydym wedi rhestru'r rhain isod a byddem yn annog staff ac ymarferwyr i sicrhau eu bod yn cyfeirio atynt wrth ystyried a chyflawni'r gwaith o gynllunio gofal ymlaen llaw.

Canllawiau a pholisïau allweddol er mwyn helpu i lywio'r gwaith o gynllunio gofal ymlaen llaw: