Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Coronafeirws (COVID-19)

Datganiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar Goronafeirws (COVID-19)

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) i roi terfyn ar ei rhaglen o arolygiadau a gwaith adolygu arferol o heddiw, ddydd Mawrth 17 Mawrth ymlaen.

Yn sgil y penderfyniad i ddefnyddio dull cytbwys o weithio sy'n seiliedig ar risgiau dros yr wythnosau sydd i ddod, oherwydd y sefyllfa o ran COVID-19, mae AGIC wedi penderfynu rhoi terfyn ar ei rhaglen arolygu ac adolygu parhaus o heddiw, ddydd Mawrth 17 Mawrth ymlaen.

Dywedodd Alun Jones, Dirprwy Brif Weithredwr AGIC:

“Er bod ein rôl o sicrhau bod safonau ym maes gofal iechyd yn cael eu cyrraedd bob amser yn bwysig, mae angen i ni ystyried cyngor diweddaraf y llywodraeth ar COVID-19, llesiant ein staff a'r baich y gallai unrhyw weithgareddau a gynhelir gennym ei achosi, ar adeg pan fo gwasanaethau gofal iechyd o dan bwysau sylweddol.

“Nod ein penderfyniad yw helpu'r rhai sy'n darparu gwasanaethau gofal iechyd i ganolbwyntio eu holl adnoddau ar gadw pobl yn ddiogel yn ystod yr argyfwng iechyd byd-eang hwn. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â fframwaith gweithredu Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys lleihau gofynion rheoleiddio ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal.

“Felly, byddwn yn rhoi terfyn ar arolygiadau arferol a gwaith adolygu o heddiw ymlaen. Efallai y bydd angen i ni ddefnyddio ein pwerau arolygu o hyd mewn nifer bach o achosion, os bydd tystiolaeth amlwg i wneud hynny.”

Caiff darparwyr gwasanaethau wybod am y newidiadau hyn cyn gynted â phosibl.

Byddwn yn parhau i ystyried cyngor swyddogol ac i ailasesu ein penderfyniadau os bydd y sefyllfa yn newid.