Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Coronafeirws (COVID-19) – 13 Mawrth

Datganiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar Goronafeirws (COVID-19)

Gan ystyried y sefyllfa o ran Coronafeirws (COVID-19), rydym wedi bod yn asesu ei effaith ar ein rhaglen waith a sut y byddwn yn diwygio ein cynlluniau'n unol â hynny.

Er bod ein rôl o ran cadarnhau a yw safonau yn cael eu cyrraedd yn y sector gofal iechyd bob amser yn bwysig, byddwn yn gweithio mewn ffordd gytbwys yn seiliedig ar risgiau yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.

Nod y broses hon yw sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein rhaglen waith mewn ffordd gymesur, gan ystyried y canlynol:

  • Unrhyw ganllawiau gan y llywodraeth a chyfyngiadau posibl ar weithgareddau neu deithio
  • Diogelwch cleifion, gan gynnwys y risg y gallai ein gweithgareddau arolygu drosglwyddo'r feirws
  • Llesiant ein staff
  • Y baich y gallai unrhyw weithgareddau a gynhelir gennym ei achosi, ar adeg pan fo gwasanaethau gofal iechyd o dan bwysau sylweddol.

Rydym wedi rhoi trefniadau ar waith i ystyried, yn barhaus, a ddylai pob arolygiad yn y dyfodol fynd rhagddo a pha newidiadau eraill y gall fod angen i ni eu gwneud i'r gwaith a gynllunnir gennym.

Gall hyn olygu y bydd yn rhaid i ni ohirio arolygiadau, atal gwaith adolygu sy'n mynd rhagddo neu newid y ffocws o ran ble, pryd a sut y byddwn yn arolygu.

Byddwn yn hysbysu darparwyr gwasanaethau am unrhyw newid i'r rhaglen waith a gyhoeddwyd gennym cyn gynted â phosibl.

Byddwn yn parhau i ystyried cyngor swyddogol ac i ailasesu ein penderfyniadau os bydd y sefyllfa yn newid.

Darllenwch ein datganiad diweddaraf yma.