Datganiad gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr i wasanaethau mamolaeth hen Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac mewn ymateb i hynny, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi gwneud y datganiad canlynol.
Dywedodd llefarydd ar ran Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
“Rydym yn croesawu y cyhoeddiad o adroddiad Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr, sy'n unol â'n pryderon ein hunain a'r argymhellion a wnaed yn dilyn ein harolygiad o'r uned mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ym mis Hydref 2018. Er inni dderbyn ymateb y bwrdd iechyd i'n harolygiad, rydym yn cynnal trafodaethau parhaus gyda'r bwrdd iechyd o ran ei gamau gweithredu a chynnydd y gwasanaethau mamolaeth.
“Rydym yn bwriadu cynnal adolygiad llywodraethu o'r bwrdd iechyd fel rhan o'n rhaglen waith ar gyfer 2019-2020. Gwnaed y penderfyniad yn gynharach eleni, yn dilyn nifer o faterion a nodwyd yn ystod ein gweithgarwch arolygu parhaus a oedd yn ymwneud â llywodraethu. Rydym yn trafod gyda Swyddfa Archwilio Cymru am y ffordd y byddwn yn cydlynu ein gwaith ar yr adolygiad hwn.
“Fel yr amlinellwyd yn ein cynllun gweithredol, a gyhoeddwyd yn cynharach y mis hwn, byddwn hefyd yn dechrau ar adolygiad cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth yr haf hwn. Bydd yr adolygiad yn cynnwys cynnal arolygiadau dirybudd o wasanaethau mamolaeth ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru. Bydd adroddiad yn cael ei lunio yn dilyn pob arolygiad a chodir unrhyw bryderon brys gyda'r byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru ar unwaith, yn unol â'n prosesau arferol. Daw'r adolygiad i ben drwy gyhoeddi adroddiad ar wasanaethau mamolaeth cenedlaethol yn haf 2020.”