Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid – Strategaeth Monitro ac Adrodd Cymru Drafft
Rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ein strategaeth monitro ac adrodd ddrafft ar gyfer y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid newydd.
Lansiwyd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ar 17 Mawrth. Gellir dod o hyd i fanylion ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, ac adnoddau ychwanegol ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, ar ei gwefan.
Yng Nghymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy’n monitro gweithrediad y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ac, mewn perthynas â lleoliadau addysg, caiff y swyddogaeth ei chyflawni gan Estyn hefyd.
Bydd monitro ac adrodd ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn rhoi syniad i ni o sut maent yn gweithio'n ymarferol ledled Cymru ac yn helpu i gadw safonau'n uchel.
Rydym wedi gweithio gydag Estyn ac AGC i ddatblygu strategaeth monitro ac adrodd ddrafft. Mae hon yn disgrifio sut y byddwn yn cyflawni ein cyfrifoldebau ar gyfer monitro ac adrodd ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid.
Sut i ymateb
Rydym wedi datblygu arolwg byr i gasglu safbwyntiau ar y strategaeth ddrafft. Mae’r arolwg yn ymdrin â’r tri chwestiwn canlynol:
- A ydych yn meddwl bod y dull o fonitro ac adrodd ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn glir yn y strategaeth?
- A fydd y dull yn helpu i roi sicrwydd bod y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn cael eu rhoi ar waith yn briodol yng Nghymru?
- A oes unrhyw beth yr ydym wedi'i golli ac y dylid ei gynnwys?
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich ymateb yw 7 Gorffennaf 2022.
I gael rhagor o wybodaeth am y strategaeth hon, neu ein rôl wrth fonitro ac adrodd ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, cysylltwch â ni.