Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar gyhoeddi adroddiadau arolygu lleoliadau gofal iechyd yn ystod COVID-19

Ar 14 Ebrill, gwnaethom gyhoeddi ein bod yn rhoi'r gorau i gyhoeddi adroddiadau ar arolygiadau o leoliadau gofal iechyd y GIG a gynhaliwyd cyn i ni benderfynu peidio â chynnal arolygiadau arferol newydd ar 17 Mawrth. Mae ein datganiad ar 14 Ebrill yn nodi'r rhesymau dros ein penderfyniad.

Ein proses arferol yw cyhoeddi adroddiadau arolygu dri mis ar ôl i'r arolygiad gael ei gynnal. Cynhelir trafodaethau a phroses gwirio ffeithiau rhwng AGIC a'r lleoliad a arolygwyd yn ystod y cyfnod hwn o dri mis. Rydym yn cydnabod bod y broses hon yn gofyn am amser staff o fewn y GIG ac, oherwydd y pwysau sylweddol roedd y GIG yn ei wynebu ddechrau mis Ebrill, gwnaethom benderfynu y byddai rhoi'r gorau i lunio ein hadroddiadau yn helpu i ryddhau amser staff yn y gwasanaeth.

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn siarad â byrddau iechyd ynglŷn ag ailddechrau ein proses o wirio'r ffeithiau yn ein hadroddiadau arolygu, o fewn amserlen briodol, cyn iddyn cael eu cyhoeddi. Rydym mewn sefyllfa bellach i ddechrau cyhoeddi adroddiadau a gwblhawyd a bwrw ymlaen ag adroddiadau eraill ymlaen er mwyn eu cwblhau a'u cyhoeddi. Ar gyfer adroddiadau lleoliadau gofal sylfaenol byddwn yn cysylltu â nhw'n uniongyrchol i drafod y trefniadau hyn.

Bydd ein proses ar gyfer cyhoeddi adroddiadau arolygu lleoliadau gofal iechyd annibynnol yn parhau fel y nodwyd ar 14 Ebrill – byddwn yn ystyried pob adroddiad arolygu fesul achos mewn ymgynghoriad â'r lleoliad. Ein nod yw parhau i rannu adroddiadau â'r cyhoedd mewn ffordd amserol gan ystyried ar yr un pryd y pwysau cynyddol y mae rhai lleoliadau yn dal i'w wynebu.

Fel y nodwyd yn flaenorol, er ein bod yn dal i beidio â chynnal arolygiadau arferol a chwblhau ein gwaith adolygu, efallai y bydd angen i ni ddefnyddio ein pwerau arolygu o hyd mewn nifer bach o achosion, os bydd tystiolaeth amlwg o blaid gwneud hynny. O dan yr amgylchiadau hyn, byddwn yn ceisio llunio adroddiad ar unrhyw arolygiad a gynhelir gennym yn unol â'n prosesau arferol.

Byddwn yn parhau i ystyried cyngor swyddogol ar fesurau i leihau nifer yr achosion o drosglwyddo COVID-19, ac yn ailasesu ein penderfyniadau os bydd y sefyllfa yn newid