Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad y Gaeaf AGIC

Wrth inni nesáu at yr hyn a fydd yn gyfnod gaeaf anodd i wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru, mae'n hen bryd inni ddarparu diweddariad ar ddull gweithredu a gweithgareddau ni dros y misoedd i ddod.

Diweddariad y Gaeaf

Rhaglen sicrwydd ac arolygu

Nid yw ein sefyllfa ynglŷn â'n rhaglen sicrwydd ac arolygu wedi newid yn yr ystyr ei bod yn cael ei hysgogi gan risg, wrth geisio cefnogi ymateb ac adferiad gwasanaethau gofal iechyd o'r pandemig hefyd. Nid yw ein hymrwymiad i adolygu'r sefyllfa’n barhaus a defnyddio'r cymysgedd cywir o waith sicrwydd oddi ar y safle ac ar y safle i gyflawni ein swyddogaethau wedi newid chwaith. Gydag amrediad o ddangosyddion yn dangos pwysau uwch ar wasanaethau gofal iechyd oherwydd COVID-19, cyflyrau anadlol ehangach a phwysau ar draws y system, byddwn yn parhau i asesu risg pob darn o waith ac ymgysylltu â gwasanaethau pan fo hynny'n briodol. Ymhellach at hyn, ac i gydnabod adborth a myfyrdod ar arolygiadau diweddar, byddwn bellach yn symud i ffwrdd o arolygiadau nas cyhoeddir ar gyfer llwybrau ‘gwyrdd’ a dewisol a drefnir. Byddwn yn darparu tua 24 awr o rybudd ar gyfer yr arolygiadau hyn gyda'r bwriad o sicrhau bod gan ein timau amser i gyfathrebu â staff a chaniatáu amser i drefniadau gael eu rhoi ar waith ar gyfer yr arolygiad. Ein disgwyliad yw mai hwn fydd y dull ar gyfer yr holl arolygiadau sy'n dod o dan y categori hwn, ond mae dal yn rhaid inni gadw'r hawl i weithredu mewn ffordd hollol ddirybudd pan fyddwn yn penderfynu bod risg uchel iawn i ddiogelwch cleifion o ganlyniad i'r ffordd y mae gwasanaeth yn gweithredu.

Rydym yn ymwybodol iawn y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd yn lleol dros gyfnod y gaeaf o gofio’r galw eithriadol a chyd-destun y systemau y mae gwasanaethau gofal iechyd yn gweithredu ynddynt. Byddwn yn ofalus i sicrhau y deallir hyn yn glir fel rhan o'n gwaith sicrwydd ac yn ein hadroddiadau.

Pan fo angen inni gynnal gwaith ar y safle, rydym wedi gweithredu nifer o fesurau i leihau'r risg o drosglwyddo COVID-19 o'n gweithgarwch arolygu ac i sicrhau bod ein staff yn cael eu hamddiffyn rhag COVID-19. Felly, byddwn yn disgwyl i bresenoldeb ein harolygwyr gael ei drin fel hanfodol, ac yn debyg i weithwyr proffesiynol sy’n ymweld yn hytrach nag aelodau o'r cyhoedd.

Adolygiadau cenedlaethol

Mae adolygiadau cenedlaethol a lleol yn parhau i ffurfio rhan allweddol o'n gwaith sicrwydd. Cyhoeddwyd ein hadolygiad o Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: Adolygiad Lleol o Ddiogelwch, Preifatrwydd, Urddas a Phrofiad Cleifion wrth Aros mewn Ambiwlansys pan fydd Oedi wrth Drosglwyddo Gofal fis diwethaf. Mae'n glir o'n gwaith bod nifer sylweddol o weithgareddau system gyfan naill ai wedi'u cynllunio neu wrthi'n cael eu gwneud gyda golwg ar fynd i'r afael â gwelliant yn y gwaith o gyflwyno gwasanaethau gofal brys ac mewn argyfwng. Fodd bynnag, rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ymateb system wedi'i gydlynu i'r argymhellion penodol sy'n deillio o'n gwaith. Rydym mewn cysylltiad â Phrif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a byddwn yn cefnogi gwelliant lle y bo'n bosibl.

Mae'r gwaith maes ar gyfer ein Hadolygiad Cenedlaethol o Atal Argyfyngau Iechyd Meddwl yn y Gymuned wedi'i gwblhau. Bwriedir cyhoeddi'r adroddiad ym mis Rhagfyr 2021 a byddwn yn ymgysylltu â chi ar ein canfyddiadau yn y ffordd arferol.

Rydym wedi dechrau Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion (Llwybr Strôc), ac rydym yn cwblhau’r cylch gorchwyl ar hyn o bryd. Mae grŵp cynghori rhanddeiliaid yn cael ei ymgynnull ar hyn o bryd i helpu i lywio'r gwaith. Ein nod yw rhannu canfyddiadau fel rhan o'n cyfres o Fwletinau Arsylwi ar Ansawdd cyn gorffen gydag adroddiad cenedlaethol a gyhoeddir ddiwedd hydref 2022.

Byddwn yn cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar y Ddeddf Iechyd Meddwl 2020-21 ar 10 Tachwedd 2021. Yn dilyn nifer sylweddol o wiriadau ansawdd ac arolygiadau, mae'r adroddiad yn cwmpasu nifer o feysydd allweddol mewn perthynas â darpariaeth iechyd meddwl gyffredinol a'r rhai sy'n benodol i weinyddiaeth y ddeddf. 

Gwnaethom gefnogi AGC yn ddiweddar wrth gynnal adolygiad cenedlaethol o gymorth, gofal a chefnogaeth gynnar a threfniadau pontio ar gyfer plant anabl yng Nghymru. Roedd cydweithio'n galluogi ystyriaeth o sut y mae pobl yn cael eu cefnogi'n ddi-dor ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Nododd yr adolygiad arfer cadarnhaol, pwyntiau dysgu a meysydd i'w gwella i'w hystyried gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a'u partneriaid. Bwriedir cyhoeddi'r adroddiad terfynol ddiwedd mis Tachwedd 2021.

Gweithredu trefniadau Gwasanaeth sy'n Peri Pryder a strategaeth AGIC yn y dyfodol

Gwerthfawrogir cyfraniadau i'n gwaith ac i sut rydym yn datblygu fel sefydliad, yn enwedig ar adeg mor brysur. Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, rydym yn bwriadu lansio ein proses newydd ar gyfer Gwasanaeth y GIG sy'n Peri Pryder ar 15 Tachwedd 2021. Rydym wedi ystyried yn ofalus yr holl sylwadau a dderbyniwyd ac wedi gwneud unrhyw newidiadau yr oeddem yn teimlo eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol i'r broses a fydd ar gael ar ein gwefan.

Mae’r newid mwyaf sylweddol yn ymwneud â sut y disgrifir gwasanaeth sy'n cael ei reoli trwy'r broses Gwasanaeth sy'n Peri Pryder. Mewn cyfathrebiadau allanol ac at ddibenion ein gwefan, ein bwriad yw disgrifio unrhyw wasanaeth o’r fath fel ‘Gwasanaeth sy’n Gofyn am Welliant Sylweddol’ yn hytrach na Gwasanaeth sy'n Peri Pryder. Yn ogystal â hyn, bydd ein gwefan yn cynnwys esboniad o'r rhesymau sy'n sail i'r penderfyniad hwn. Credwn fod hon yn ffordd fwy adeiladol o ddisgrifio gwasanaethau a chefnogi unrhyw welliannau angenrheidiol, gyda Gwasanaeth sy'n Peri Pryder yn derm a neilltuwyd ar gyfer y broses yn hytrach na chanlyniad y broses.

Yn olaf, yn dilyn ymgysylltiad cychwynnol ar strategaeth tair blynedd y dyfodol AGIC, rydym wedi gweithio i fireinio ein blaenoriaethau i sicrhau ein bod yn gyfarwydd â'r wybodaeth ddiweddaraf o ran newidiadau yn y ddarpariaeth gofal iechyd, gan ganolbwyntio ar ansawdd y ddarpariaeth gofal iechyd i bobl a chymunedau wrth iddynt gyrchu a defnyddio gwasanaethau a symud rhyngddynt. Byddwn yn rhannu ein blaenoriaethau eto cyn eu cwblhau, a byddwn yn cyhoeddi ein strategaeth newydd ym mis Mawrth 2022.