Neidio i'r prif gynnwy

Dywedwch wrthym am eich profiad o drefniadau rhyddhau cleifion o wasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae eich barn yn bwysig!

 

Mae eich barn yn bwysig!

Fel rhan o'n rhaglen o adolygiadau blynyddol, rydym wedi ymrwymo i gynnal adolygiad lleol o ansawdd trefniadau rhyddhau cleifion sy'n oedolion o wasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Bydd ein hadolygiad yn canolbwyntio ar ac yn asesu ansawdd a diogelwch trefniadau rhyddhau ar gyfer cleifion sy'n oedolion (18-65) yn ôl i'r gymuned o unedau iechyd meddwl cleifion mewnol o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Os ydych chi, aelod o'r teulu neu rywun rydych yn gofalu amdano wedi cael eich rhyddhau o uned cleifion mewnol Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?

Os felly, hoffem glywed gennych:

Mae'r holiadur yn ddienw, felly ni fydd modd i unrhyw un eich adnabod o'ch atebion.

Bydd eich profiad yn ein helpu i nodi arferion da a gwelliannau lle mae eu hangen, er mwyn darparu gwell gofal i gleifion yng Nghymru.

Mae copi caled o'r arolwg ar gael, neu os hoffech gwblhau'r arolwg dros y ffôncysylltwch â ni.