Gofal da, ond mynediad anghyson at wasanaethau camddefnyddio sylweddau ledled Cymru' dywed arolygiaethau
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd yn dilyn eu hadolygiad diweddar o wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru.
Ar y cyfan, canfu AGIC ac AGC fod pobl yn derbyn gofal da gan staff gofalgar a brwdfrydig ond bod y mynediad at wasanaethau yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig ac yn gyffredinol anghyson ledled Cymru. Yn benodol, roedd pobl yn ei chael hi'n anodd cael y driniaeth yr oedd ei hangen arnynt gan wasanaethau rhagnodi amnewidion (e.e. methadon), dadwenwyno, adsefydlu a chwnsela oherwydd bod amseroedd aros hir a phrinder capasiti mewn gwasanaethau.
Yn ogystal, roedd yr adolygiad yn nodi gwendidau o ran goruchwylio a rheoleiddio yn ymwneud ag ansawdd a diogelwch gwasanaethau. O ganlyniad, efallai na fydd Byrddau Cynllunio Ardal yn gallu nodi, monitro a gweithredu'n gyflym ar themâu a materion sy'n dod i'r amlwg ar draws yr holl wasanaethau er mwyn amddiffyn diogelwch pobl. Mae angen i Lywodraeth Cymru a'r Byrddau Cynllunio Ardal ailystyried y ffordd maent yn ceisio sicrwydd ynghylch perfformiad gwasanaethau.
Yn siomedig, er bod peth cynnydd wedi'i wneud, mae llawer o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn debyg i'r rheiny y gwnaeth AGIC eu nodi yn ei hadroddiad blaenorol ar gamddefnyddio sylweddau yn 2012.
Mae AGIC ac AGC wedi gwneud 34 o argymhellion i'r Byrddau Cynllunio Ardal a/neu Llywodraeth Cymru eu hystyried.
Meddai Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr AGIC:
Mae ein hadroddiad yn cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad y staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Er mai cadarnhaol yw'r ffaith fod gan gleifion brofiadau da o ofal mewn gwasanaethau, ni allant bob amser gael y math cywir o driniaeth sydd ei angen arnynt mewn modd amserol. Mae'n siomedig fod llawer o'r problemau y gwnaethom eu nodi yn ein hadolygiad yn 2012 heb eu datrys o hyd. Er bod peth cynnydd wedi'i wneud, nid yw hyn wedi bod yn gyson naill ai mewn rhanbarthau neu ledled Cymru. Mae angen cydweithio effeithiol ar draws gwasanaethau i fynd i'r afael â nifer o faterion parhaus sy'n effeithio ar y cymorth i bobl a chanddynt broblemau camddefnyddio sylweddau.