Neidio i'r prif gynnwy

Gofal sylfaenol ar-lein – datganiad ar y cyd gan y rheolyddion

Mae rheolyddion gwasanaethau gofal iechyd ledled y DU wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ynghylch darparu gofal sylfaenol ar-lein. Mae’r datganiad llawn isod a bydd canllawiau pellach i gleifion a gweithwyr proffesiynol yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Yn y cyfamser, os ydych yn feddyg sy'n byw yng Nghymru neu'n sefydliad sydd â chyfeiriad cwmni cofrestredig yng Nghymru, a'ch bod chi yn ymwneud â darparu gwasanaethau gofal iechyd ar-lein, neu'n ymgymryd â phresgripsiynu o bell, cwblhewch ffurflen ymholiadau cofrestru.

Wedyn, y gallwn penderfynu a oes angen cofrestru fel asiantaeth feddygol gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Gofal sylfaenol ar-lein – Ymateb gan y rheoleiddwyr – Medi 2019

Fel rheoleiddwyr gwasanaethau gofal iechyd, meddyginiaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol ledled y DU, rydym yn cydnabod pwysigrwydd annog arloesedd, gwelliant a chynaliadwyedd ym maes gofal, gan sicrhau y caiff safonau ansawdd a diogelwch sylfaenol eu cyrraedd.

Mae darparu iechyd a gofal ar-lein yn herio'r tirlun rheoliadol presennol drwy drawsnewid y ffordd y caiff gofal ei ddarparu, pryd y caiff ei ddarparu a gan bwy.

Rydym yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o feddyginiaethau'n cael eu rhagnodi a'u dosbarthu'n ddiogel ac yn briodol ar-lein. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall pobl gael gafael ar feddyginiaethau nad ydynt yn briodol iddynt, neu mewn symiau na fyddai eu meddyg teulu rheolaidd na gwasanaethau'r GIG yn eu rhagnodi iddynt. Gall yr effaith ar bobl a'u teuluoedd fod yn drychinebus.

Dros amser, rydym wedi dechrau pryderu bod rhai darparwyr gofal sylfaenol ar-lein yn darparu gwasanaethau sydd y tu hwnt i gwmpas rhai o reoleiddwyr y DU, neu bob un ohonynt. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn ddarostyngedig i'r un arolygiadau a gwiriadau diogelwch yn ôl y gyfraith.

Cafodd fforwm rheoliadol ar gyfer y DU gyfan ei sefydlu ym mis Chwefror 2017. Fel aelodau, rydym yn rhannu gwybodaeth ac yn cydweithio er mwyn cymryd camau cydlynol, mynd i'r afael â bylchau rheoliadol a helpu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau i bobl yn y DU. Rydym yn parhau i feithrin ein dealltwriaeth o fanteision a risgiau'r gwasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir ar-lein, ac rydym yn cydweithio â darparwyr iechyd a gofal i'w hannog i ddefnyddio arfer gorau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae gan aelodau o'r fforwm gamau gweithredu penodol a chynlluniau i gyflawni hyn:

  • Mae'r rheoleiddwyr proffesiynol a rheoleiddwyr systemau yn cydweithio â sefydliadau partner i ddatblygu egwyddorion cyffredin ar gyfer ymgyngoriadau a rhagnodi o bell er mwyn rhoi cymorth i ddarparwyr gofal iechyd a reoleiddir a gweithwyr proffesiynol yn y maes.
  • Rydym hefyd wrthi'n cydweithio i ddatblygu gwybodaeth i'r cyhoedd ei hystyried wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, er mwyn sicrhau y gallant gael gofal diogel ac effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Mae'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig i berchenogion fferyllfeydd sy’n darparu gwasanaethau fferyllol o bell, gan gynnwys ar y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys mesurau diogelu pellach er mwyn helpu i sicrhau mai dim ond gan fferyllfeydd ar-lein sy'n ddiogel ac yn briodol yn glinigol y gall pobl gael meddyginiaethau ganddynt. Bydd arolygwyr y GPhC yn edrych am dystiolaeth i ddangos bod y canllawiau'n cael eu dilyn yn ystod arolygiadau o fferyllfeydd.
  • Mae gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol ganllawiau i feddygon ar ymgyngoriadau a rhagnodi o bell, yn ogystal â chyngor penodol ar arfer da yn y maes hwn. Mae'n bwriadu galw am dystiolaeth yn ddiweddarach eleni o ran p'un a oes angen diweddaru ei ganllawiau ar ragnodi yn sgil y newidiadau cyflym mewn gwasanaethau gofal iechyd o bell.
  • Mae'r Comisiwn Ansawdd Gofal wedi arolygu pob darparwr ar-lein cofrestredig yn Lloegr ac wedi cyhoeddi canfyddiadau'r gyfres gyntaf o arolygiadau. Bydd pob darparwr ar-lein cofrestredig yn derbyn gradd ansawdd yn dilyn yr arolygiad o hyn ymlaen. Mae'r Comisiwn Ansawdd Gofal wedi gofyn am newidiadau i'r gyfraith er mwyn cynnwys darparwyr ar-lein mewn rheoliadau nad ydynt wedi'u cynnwys hyd yn hyn oherwydd eu strwythur, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gofrestru â'r Comisiwn yn ôl y gyfraith.
  • Mae Awdurdod Rheoleiddio a Gwella Ansawdd Gogledd Iwerddon (RQIA) yn arolygu pob darparwr ar-lein cofrestredig yng Ngogledd Iwerddon. Os yw'r darparwr ar-lein hefyd wedi'i gofrestru â rheoleiddwr systemau arall ac yn cael ei arolygu ganddo, mae'r RQIA yn defnyddio'r wybodaeth o'r arolygiad diweddaraf i lywio ei ddull arolygu.
  • Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi cynnal ymgyrch barhaus i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, gan dargedu cynulleidfaoedd penodol am feddyginiaethau ffug. Mae'r MHRA yn cydweithio â'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac eraill er mwyn adolygu achosion o fod yn gaeth i opioidiau, gan gynnwys gwerthiannau ar-lein.